Dafydd, Pietà, Y Caethwas ar Farw, Y Farn Olaf, Tondo Doni, Madonna della Scala, Brwydr y Dynfeirch, Ysbryd Buddugoliaeth, Pietà Fflorens, Pietà Rondanini, nenfwd y Cappella Sistina, Y Caethwas Anufudd, Sant Mathew, Capeli'r Medici, Bacchus, Brutus, Basilica Sant Pedr, Y Caethweision, Biblioteca Medicea Laurenziana
Fe'i ganwyd yn Caprese, ger Arezzo yn yr Eidal, yn fab i'r banciwr Ludovico di Leonardo di Buonarotto Simoni a'i wraig Francesca di Neri del Miniato di Siena.
Roedd yr athrylith hwn wedi cwblhau un o'i gampweithiau, y Pietà sydd heddiw ym Masilica Sant Pedr (San Pietro) yn Rhufain, cyn ei fod yn ddeg ar hugain oed, ac un arall, y cerflun o Dafydd, yn ei dri degau cynnar. Er gwaetha'r ffaith ei fod yn ystyried ei hun yn gerflunydd cyn pob dim, creodd Michelangelo hefyd ddau o'r peintiadau ffresgo mwyaf dylanwadol yn hanes celf ar nenfwd a wal ddwyreiniol y Cappella Sistina (hefyd yn Rhufain). Meistrolodd Michelangelo bensaernïaeth yn ei henaint a cynlluniodd gromen San Pietro yn 70 oed. Roedd effaith yr arlunydd ar bob un o'r maesydd yma yn chwyldroadol.
Yn wahanol i lawer o artistiaid cyn y Dadeni Dysg, cydnabwyd Michelangelo fel athrylith tra'r oedd yn dal yn fyw, ac fe'i galwyd yn Il Divino, "yr un dwyfol" (llysenw addas o ystyried ei fod yn ŵr crefyddol iawn). Cyhoeddwyd dau fywgraffiad ohono tra yn fyw, un gan Giorgio Vasari, cyfaill i Michelangelo, a'r llall gan Ascanio Condivi. Diolch i Vasari yn bennaf cafodd Michelangelo ei ystyried fel copa pob cyrhaeddiad yng nghelf am ganrifoedd wedi ei farwolaeth.
Oriel
Pietà (Mair yn galaru dros gorff marw Crist), 1499–1500