melin sy'n cael ei phŵer o'r gwynt yw melin wynt. Mae'r gwynt yn troi hwyliau'r felin, a gellir defnyddio'r egni i wahanol bethau, er enghraifft malu grawn, cynhyrchu trydan neu bwmpio dŵr. Defnyddir y term "melin wynt" fel rheol am y math traddodiadol ar felin. Cyfeirir at y math modern a ddefnyddir i gynhyrchu trydan fel tyrbin gwynt fel rheol, er bod yr egwyddor yr un fath.
Nid oes sicrwydd pa bryd nag ymhle y dyfeisiwyd y felin wynt gyntaf, ond gwyddys ei bod yn cael ei defnyddio yn yr hen Bersia yn nechrau'r cyfnod hanesyddol. Yn Ewrop, mae'r felin wynt yn ymddangos yng ngogledd-orllewin Ffrainc, Fflandrys a de-ddwyrain Lloegr tua'r flwyddyn 1000.
Mewn ardaloedd gwastad lle nad oes dim o dorri ar rym y gwynt y mae'r felin wynt fwyaf llwyddiannus. Yn Ewrop, mae'r Iseldiroedd yn arbennig o enwog am ei melinau gwynt. Ceir nifer fawr yn La Mancha yng nghanolbarth Sbaen hefyd. Yng Nghymru, roedd nifer fawr ohonynt ar Ynys Môn (g. Rhestr o felinau gwynt yn Ynys Môn). Dim ond un o felinau gwynt traddodiadol Cymru, Melin Llynnon ger Llanddeusant, Ynys Môn, sy'n dal i weithio.
-
Melin Llynnon ar Ynys Môn
-
Melinau gwynt yn La Mancha, Sbaen
-
Melin wynt yn Kuremaa, Estonia
-
Stroczycy, Belarws
-
Melin y Breuddwydion ("Yume-Fusha"), Yamaguchi, Japan
-
Melin yn Sønderho, Denmarc
Cymdeithas Melinau Cymru
Sefydlwyd Cymdeithas Melinau Cymru yn 1984 er mwyn cofnodi, cadw, hybu a gwarchod melinau gwynt, melinyau dŵr ac agweddau eraill o'r diwydiant. Maent yn cyhoeddi cylchlythyr o'r enw Melin. Cadeirydd y Gymdeithas yw Gerallt D. Nash sy'n wreiddio o Sir Benfro a bu'n staff ar Amgueddfa Werin Cymru wrth sefydlu'r Gymdeithas.[1]
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- ↑ "Hafan Cymdeithas Melinau Cymru". wefan y Gymdeithas. Cyrchwyd 13 Chwefror 2024.