Roedd Maxwell Frank Clifford (6 Ebrill 1943 – 10 Rhagfyr 2017) yn swyddog cyhoeddusrwydd Seisnig. Roedd yn gymeriad dadleuol am ei fod yn cynrychioli cleientiaid amhoblogaidd yn aml (fel pobl a gyhuddwyd neu a gafwyd yn euog o droseddau) neu'n gweithio fel asiant at gyfer pobl sy'n gwerthu straeon "cusanu-a-dweud" wrth y papurau newydd tabloid.
Fe'i arestiwyd yn Rhagfyr 2012 gan swyddogion yr Heddlu Metropolitan ar amheuaeth o droseddau rhywiol; yn rhan o Operation Yewtree. Aeth o flaen ei well yn Mawrth 2014[1] ac fe'i gafwyd yn euog o saith achos o ymosodiad anweddus ar pedwar merch a menyw rhwng 14 ac 19 oed. Ar 2 Mai 2014 fe'i ddedfrydwyd i wyth mlynedd yn y carchar,[2][3] ac o 7 Tachwedd 2014 fe'i garcharwyd yn HM Prison Littlehey.[4] Bu farw yn Rhagfyr 2017 dridiau ar ôl dioddef trawiad ar y galon.[5]
Cyfeiriadau
Dolenni Allanol