Martigny |
|
Math | bwrdeistref y Swistir, dinas yn y Swistir |
---|
|
Poblogaeth | 18,301 |
---|
Pennaeth llywodraeth | Anne-Laure Couchepin Vouilloz |
---|
Gefeilldref/i | Vaison-la-Romaine, Sursee, Aosta |
---|
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
---|
Daearyddiaeth |
---|
Sir | Martigny District |
---|
Gwlad | Y Swistir |
---|
Arwynebedd | 24.97 km², 25 km² |
---|
Uwch y môr | 471 metr |
---|
Gerllaw | Afon Rhône, Drance, Trient |
---|
Yn ffinio gyda | Vernayaz, Dorénaz, Fully, Charrat, Vollèges, Bovernier, Martigny-Combe, Salvan |
---|
Cyfesurynnau | 46.1°N 7.0728°E |
---|
Cod post | 1920 |
---|
Pennaeth y Llywodraeth | Anne-Laure Couchepin Vouilloz |
---|
|
|
|
Dinas yng nghanton Valais yn y Swistir yw Martigny. Hi yw ail dref y canton o ran maint, gyda phoblogaeth o 16,339 yn 2007. Saif ar y ffyrdd sy'n arwain i ddau o fulchau pwysicaf yr Alpau, Bwlch Sant Bernard Mawr a Bwlch Simplon.
Sefydlwyd y dref yn y cyfnod Rhufeinig ar safle
Oppidum neu vicus Octodure Celtaidd yn perthyn i'r Veragres. Ymladdwyd brwydr Octodure yma yn 56 CC rhwng y lleng Rufeinig Legio XII Fulminata dan Servius Galba a'r Veragres a'u cyngheiriaid y Sedunes a'r Nantuates. Sefydlodd yr ymerawdwr Claudius ddinas Rufeinig yma yn 47 OC dan yr enw Forum Claudii Augusti, a newidiwyd yn fuan i Forum Claudii Vallensium. Ceir oluion amffitheatr mewn cyflwr da yma.
Mae twristiaeth ac amaethyddiaeth, yn arbennig tyfu gwinwydd, yn bwysig yma.