Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain, Fellow of the Royal College of General Practitioners, Fellow of the Faculty of Medical Leadership and Management
Mae’r Athro Mark Taubert, FRCP FRCGP FLSW, sydd â gwreiddiau yng Nghymru a’r Almaen yn ddoctor ymgynghorol ac athro meddyginiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.[1][2] Mae ei waith fel meddyg gofal lliniarol yng Nghymru, yn ôl y Western Mail[3] a gwefan Llywodraeth Cymru[4] wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu maes ei arbenigedd, a’i fod wedi ennill cydnabyddiaeth fel doctor ac ymgyrchydd ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Wedi sgwrs â chlaf ar ei wely angau, cafodd ei ysgogi i ysgrifennu at y diweddar David Bowie ym mis Ionawr 2016,[5] a’r llythyr yn denu cryn sylw ledled y byd.[6][7][8][9] Ar ben hynny, cafodd y llythyr ei drosi i’r Gymraeg (gweler y Dolenni Allanol).
Fe yw sylfaenydd Talk CPR, ymgyrch rhyngwladol i hyrwyddo gwybodaeth a thrafodaeth ynghylch penderfyniadau i beidio â dechrau adfywio cardio-pwlmonaidd, pwnc a all fod yn destun dadl. Mae hefyd yn gadeirydd cenedlaethol ar y Grŵp Gofal Ymlaen Llaw ac at y Dyfodol o Weithrediaeth GIG Cymru.
Gwaith cyfryngau
Mae wedi cyhoeddi sawl erthygl ar ofal lliniarol mewn cylchgronau rhyngwladol, megis y Washington Post[10] a'r Guardian.[11][12] Fe yw sylfaenydd Talk CPR[13][14], ymgyrch rhyngwladol i hyrwyddo gwybodaeth a thrafodaeth ynghylch penderfyniadau i beidio â dechrau adfywio cardio-pwlmonaidd (fe’i adnabyddir hefyd fel DNACPR), pwnc a all fod yn destun dadl. Ymwelwyd â’i adnoddau esboniadol Talk CPR dros filiwn o weithiau ar draws y byd, [15] ac mae wedi cael ei gyfweld a thrafod y pwnc gan BBC News at Six a BBC News at 10.
Cyflwynodd Taubert drafodaeth TEDx ar ddefnydd iaith mewn gofal lliniarol.[16] Ar ben hynny, fe gafodd ei gynnwys ar ddau recordiad ar thema ofal lliniarol ar gyfer Listening Project BBC y DU yn 2019 [17] a 2020 [18] a hefyd ar raglen BBC Horizon ‘We need to talk about Death’ gyda Kevin Fong.[19]
Gwobrau
Mae Taubert wedi ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol am ei waith addysgu a chlinigol, yn cynnwys gwobr Bafta am fod yn rhan o dîm gofal mewn rhaglen ddogfennol gan ITV.[20] Dyfarnwyd gwobr genedlaethol clodfawr iddo sef Addysgwr Clinigol BMJ/BMA y flwyddyn [21][22], Gwobr Hyfforddwr Gorau Cymru 2016 [23] a Gwobr Coleg Brenhinol y Meddygon am Ragoriaeth mewn Gofal Cleifion.[24]
Llythyr agored i David Bowie
Yn 2016, cyhoeddodd lythyr i ddiolch i David Bowie ar ôl marwolaeth y cantor, gan gyfeirio at albwm olaf Bowie, Blackstar.[25][26] Yn gyntaf, cyhoeddwyd y llythyr yn y British Medical Journal[27][28] ac yna'r Independent Newspaper [29] ac yna ei rannu gan fab David Bowie, Duncan Jones.[30] Fe ddenodd ddiddordeb mawr ar-lein ac yn ystafelloedd newyddion y byd.[31][32][33] Yn sgil y sylw hyn, cafodd ei ddarllen yn gyhoeddus mewn digwyddiadau gan enwogion megis yr actor Benedict Cumberbatch[34] a'r cantor Jarvis Cocker [35] mewn digwyddiadau cyhoeddus. Mae’r llythyr yn mynd i’r afael â gofal lliniarol a chynllunio ar gyfer gofal diwedd oes. Daeth hanes Bowie yn ffordd o godi agweddau pwysig ar farw gyda chlaf gofal lliniarol. [36][37]
Fe’i gyfansoddwyd yn ddarn pedwarawd tant cerddoriaeth glasurol i BBC Radio 3, gan gynnwys Taubert yn darllen y llythyr.[38][36] Aeth wedyn ar daith, yn lansio yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Gogledd Lloegr[39] ac Ysgol Gerdd Frenhinol yr Alban. Yn ôl yr Herald Newspaper Scotland ‘i gefndir cerddorol, darllenwyd llythyr agored i Davie Bowie gan y meddyg gofal lliniarol Mark Taubert, a ddathlwyd yn rhan o nodi marwolaeth y seren roc, ac fe’i berfformiwyd yma er cof am bedair mlynedd ers iddo farw’.[40]
Yn ogystal â hyn, argraffwyd y llythyr mewn sawl llyfr, gan gynnwys ‘David Bowie – A Life’[41] gan Dylan Jones a ‘Letters of Note – Music’[42] ggan Shaun Usher, fel rhan o’r digwyddiad brand ‘Letters Live’, lle y darllenwyd y llythyr yn uchel ddwywaith.