Mark Stacey |
---|
|
Ganwyd | 23 Medi 1964 Castell-nedd |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | gwerthwr hen greiriau |
---|
Mae Mark Stacey (a aned 23 Medi 1964) yn brisiwr ac arwerthwr o Gymru. Mae hefyd yn bersonoliaeth deledu sy'n ymddangos yn rheolaidd ar raglenni'r BBC fel arbenigwr hen greiriau.
Bywgraffiad a gyrfa broffesiynol
Ganwyd Stacey yng Nghastell-nedd.[1] Symudodd i Lundain a bu'n gweithio ar gyfer tai ocsiwn Bonhams a Sotheby. Yna daeth yn bennaeth y Celfyddydau Addurnol ac yn ddiweddarach yn Gyfarwyddwr yn Hamptons / Dreweatt Neate Fine Art.[2]
Mae Stacey wedi ymddangos yn rheolaidd fel arbenigwr hen greiriau ar raglenni'r BBC, Bargain Hunt, Flog It!,[3] Put Your Money Where Your Mouth Is a'r Antiques Road Trip.[4][5] Ym mis Mehefin 2009, cymerodd Stacey ran mewn cyfweliad ysgafn ar raglen amser cinio'r BBC Daily Politics lle gofynnwyd am ei farn ar werth eitemau a oedd yn eiddo i wleidyddion, yn sgil sgandal treuliau Senedd y DU.[6]
Yn 2014 ymddangosodd fel cystadleuydd ar y rhaglen cwis Pointless Celebrities.[7]
Yn 2011 agorodd Stacey siop creiriau yn Kemptown, Brighton, Dwyrain Sussex.[8]
Yn 2014 daeth Stacey yn arwerthwr a phrisiwr gydag arwerthwyr Reeman Dansie yn Colchester, Essex a daeth o hyd i sarcoffagws hynafol o'r Aifft, yn gorwedd ar wall tŷ yn Essex, a werthodd am £ 13,500.[9]
Bywyd personol
Mae gan Stacey un brawd a dwy chwaer.[1] Bu'n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol preswyl cyn mynd i'r fasnach hen greiriau.[8]
Mae Mark yn hoyw ac yn ymgyrchydd amlwg dros hawliau LHDT. Mae'n byw efo partner Sbaenaidd o'r enw Santiago[10][11]
Ffug adroddiadau am ei farwolaeth
Ar 20 Mehefin, 2015, cyhoeddodd The Vancouver Courier coflith ar gyfer gŵr o'r enw Mark Stacey. Arweiniodd hyn at nifer o negeseuon o gydymdeimlad a thristwch am farwolaeth yr arbenigwr hen greiriau Cymreig ar y cyfryngau cymdeithasol cyn canfod mae gŵr arall oedd yn rhannu'r un enw oedd yr ymadawedig.[10] Bu ffug pryderon am ei fywyd eto yn 2017 wedi adroddiadau yn y wasg bod gŵr arall o'r enw Mark Stacey wedi mynd ar goll.[11]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol