Rheolwr a chyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol a rhyngwladol dros Gymru yw Mark Aizlewood (Ganwyd 1 Hydref 1959 yng Nghasnewydd).
Tra'n chwarae dros Leeds United, fe oedd capten y clwb rhwng 1987 a 1989. Chwaraeodd hefyd i Sir Gasnewydd, Luton Town, Charlton Athletic, Bradford City, Bristol City, Dinas Caerdydd a Merthyr Tudful. Enillodd 39 o gapiau dros Cymru rhwng 1986 at 1994.
Cyn ymuno â Leeds roedd e hefyd yn gapten a’r Charlton Athletic ac fe enillodd dlws chwaraewr y flwyddyn am ddwy flwyddyn yn olynol.
Roedd e’n is-reolwr ar Ddinas Caer yn nhymor 2004-05 o dan reolaeth Ian Rush. Mae e hefyd yn mynychu nifer fawr o weithgareddau hyfforddi yn ne Cymru. Roedd ei frawd hynaf Steve hefyd yn chwaraewr proffesiynol gyda Sir Gasnewydd a Portsmouth.
Achos o dwyll
Yn Mehefin 2016 cyhuddwyd Aizlewood yn dilyn ymchwiliad gan y Swyddfa Dwyll Difrifol.[1] Ymddangosodd yn Llys y Goron Southwark yn Nhachwedd 2017.[2] Yn Ionawr 2018 fe'i cafwyd yn euog o un achos o dwyll, ar ôl cymryd £5m ar gyfer cynllun prentisiaeth ffug. Cafwyd yn euog ynghyd â Paul Sugrue a pedwar cyfarwyddwr arall. Disgrifiodd yr achos fel un "difrifol iawn" gan y Barnwr Michael Tomlinson ac fe ohiriwyd y dedfrydu tan 26 Chwefror, gan ryddhau y dynion ar fechnïaeth
[3]
Ar 26 Chwefror 2018, fe'i ddedfrydwyd i 6 blynedd o garchar.[4]
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau