Maria Neira

Meddyg o Asturias, gwas sifil rhyngwladol a diplomydd yw María P. Neira (ganwyd 1962), sydd ers 2005 wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Adran Iechyd y Cyhoedd, y

Maria Neira
Maria Neira
Maria Neira
Ganwyd1962 Edit this on Wikidata
La Felguera Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Asturias Asturias
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Meddyg o Asturias, gwas sifil rhyngwladol a diplomydd yw María P. Neira (ganwyd 1962), sydd ers 2005 wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Adran Iechyd y Cyhoedd, yr Amgylchedd a Phenderfynyddion Cymdeithasol Iechyd (PHE) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).[1][2][3]

Bywgraffiad

Astudiodd María P. Neira feddygaeth a llawfeddygaeth ym Mhrifysgol Oviedo yn Asturias.[1] Arbenigodd mewn endocrinoleg a chlefydau metabolaidd yn yr Université René Déscartes ym Mharis, Ffrainc.[1] Yna enillodd radd meistr mewn iechyd cyhoeddus a diploma mewn maeth dynol o'r Université Pierre et Marie Curie, hefyd ym Mharis.[1] Aeth Neira ymlaen i dderbyn y diploma rhyngwladol mewn Parodrwydd ar gyfer Argyfwng a Rheoli Argyfwng a roddwyd iddi gan Brifysgol Genefa yn y Swistir.[1]

Yn ei gyrfa gynnar, Neira oedd cydlynydd meddygol Médecins Sans Frontières (Meddygon Heb Ffiniau) a hynny mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn Salvador a Hondwras yn ystod y gwrthdaro arfog a’r cyfnod o ansefydlogrwydd.[1][2] Hi oedd yr Is-weinidog Iechyd a Materion Defnyddwyr Sbaen o 2002 ac eilwaith o 2005 ymlaen.[1] Gwasanaethodd hefyd fel Llywydd Asiantaeth Diogelwch Bwyd a Maeth Sbaen.[1] Am bum mlynedd, hi oedd Cynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn y Weinyddiaeth Iechyd ym Mosambîc. Hi oedd Cynghorydd/Meddyg Iechyd Cyhoeddus y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig (UNDP) yn Kigali, Rwanda.[1]

Ymunodd Maria Neira â Sefydliad Iechyd y Byd ym 1993 fel Cydlynydd y Tasglu Byd-eang ar Reoli Colera. Ym 1999, hi oedd Cyfarwyddwr yr Adran Rheoli, Atal a Dileu. Fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Adran Iechyd y Cyhoedd a’r Amgylchedd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn 2005.

Yn Nhachwedd 2019 ymunodd Maria Neira â Bwrdd Ymgynghorol Lefel Uchel y Lancet Countdown: Tracio Cynnydd ar Iechyd a Hinsawdd.[4]

Anrhydeddau a gwobrau

  • Médaille de l'Ordre du Mérite National gan Lywodraeth Ffrainc
  • Gwobr Strategaeth Maeth Genedlaethol Sbaen
  • Gwobr Mujer Extraordinaria gan Frenhines Letizia o Sbaen,
  • Aelod o Academi Feddygaeth Frenhinol Asturias
  • “Merched ysbrydoledig yn gweithio tuag at warchod yr amgylchedd,” Dathliad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Ngenefa, gan UNEP (2016) [3]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 "Dr. Maria Neira | UNFCCC". unfccc.int. Cyrchwyd 2019-05-06.
  2. 2.0 2.1 "Maria Neira". NewCities (yn Saesneg). 2018-03-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-07. Cyrchwyd 2019-05-06.
  3. 3.0 3.1 "WHO | Dr Maria Neira nominated an "inspirational" women". WHO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mehefin 2018. Cyrchwyd 6 Mai 2019.
  4. "Advisory Groups". Lancet Countdown (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ebrill 2023. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2019.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.