Deunydd naturiol tawdd o dan wyneb y Ddaear yw magma. Mae pob craig igneaidd yn cael ei ffurfio ohono. Ar wahân i graig dawdd, gall magma hefyd gynnwys dŵr a hylifau eraill, crisialau a swigod nwy. Dim ond o dan y ddaear y mae magma i’w gael: pan ddaw allan o’r gramen drwy weithred folcanig, mae’n colli rhai o’i gydrannau anweddol fel dŵr a nwyon toddedig ac yn troi’n lafa.[1][2]
Cyfeiriadau