Tref a phorthladd yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, ydy Lymington.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Lymington and Pennington yn ardal an-fetropolitan Fforest Newydd. Saif ar lan orllewinol Afon Lymington sy'n llifo i'r Solent. Mae'n wynebu porthladd Yarmouth ar Ynys Wyth, ac mae gwasanaeth fferi yn gweithredu rhyngddynt.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Lymington boblogaeth o 15,218.[2]
Mae'r dref yn ganolfan hwylio bwysig gyda thri marina.
Cyfeiriadau