Mae lorasepam, sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Ativan ymysg eraill, yn [[meddyginiaeth|feddyginiaeth].][1]bensodiasepin[2][3] Y f
Lorazepam | |
| Enghraifft o: | math o endid cemegol |
|---|---|
| Math | benzodiazepine drug |
| Màs | 320.011933 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | C₁₅h₁₀cl₂n₂o₂ |
| Enw WHO | Lorazepam |
| Clefydau i'w trin | Anhwylder niwrotig, schizophreniform disorder, anhunedd, anhwylder gorbryder, epilepsi ffocol, cyflwr epileptig, chwydu, catatonia, camddefnyddio sylweddau, sleep-wake disorder, gorbryder |
| Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d |
| Gwneuthurwr | Pfizer |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01kcsd |
| CAS | 846-49-1 |
| PubChem CID | 3958 |
| ChEBI | 6539 |
| ChEMBL | Chembl580 |
| ChemSpider | 3821 |
| UNII | O26fzp769l |
| ATC | N05ba06 |
| KEGG | D00365 |
| Llawlyfr Ligand | 5884 |
| Rhif EC | 212-687-6 |
| Drugbank | Db00186 |
| ECHA | 100.011.534 |
| HMDB | Hmdb0014332 |
| RxNorm CUI | 6470 |
| UMLS CUI | C0024002 |
| NDF-RT | N0000146205 |
Mae lorasepam, sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Ativan ymysg eraill, yn [[meddyginiaeth|feddyginiaeth].][1]bensodiasepin[2][3] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₅H₁₀Cl₂N₂O₂. Mae lorasepam yn gynhwysyn actif yn Ativan.
Fe'i defnyddir i drin anhwylderau pryder, trafferth cysgu, atafaeliadau gweithredol, gan gynnwys cyflwr epileptig, ar gyfer llawdriniaeth i ymyrryd â chreu cof, i lonyddu'r sawl sy'n cael eu hawyru'n fecanyddol, symptomau diddyfnu alcohol ac i atal chwydu a achosir gan gemotherapi.[2][3] Er ei fod yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnwrf difrifol, fel arfer mae'n well defnyddion midazolam. Fe'i defnyddir hefyd, ynghyd â thriniaethau eraill, ar gyfer syndrom coronaidd acíwt oherwydd defnydd cocên. Gellir ei weini trwy'r genau neu fel chwistrelliad i mewn i gyhyr neu wythïen. Pan gaiff ei roi trwy bigiad mae effeithiau yn cychwyn rhwng un a thri deg munud ac mae'r effeithiau'n para am hyd at ddiwrnod.[2]
Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys gwendid, cysgadrwydd, pwysedd gwaed isel, ac anawsterau anadlu. Pan roddir yn fewnwythiennol, dylai'r claf gael ei fonitro'n agos. Ymhlith y rheini sy'n dioddef o iselder, efallai y bydd mwy o berygl o hunanladdiad. Gyda defnydd hirdymor efallai y bydd angen dosau mwy am yr un effaith. Gall dibyniaeth gorfforol a dibyniaeth seicolegol ddigwydd hefyd. Os caiff ei atal yn sydyn ar ôl defnydd hir dymor gall y claf dioddef o syndrom symptomau diddyfnu bensodiasepin.[2] Yn aml, mae pobl hŷn yn datblygu effeithiau andwyol.[2][4] Yn y grŵp oedran hwn, mae lorazepam yn gysylltiedig â chwympiadau a thoriadau clun[5]. Oherwydd y pryderon hyn, dim ond hyd at bythefnos i bedair wythnos y mae defnydd lorazepam yn cael ei argymell[6].
Mae Lorazepam ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd[7], y meddyginiaethau pwysicaf sydd eu hangen mewn system iechyd sylfaenol. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig.
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Lorasepam, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
In general, benzodiazepines should be prescribed for short periods only (e.g. 2–4 weeks). Extension of the treatment period should not take place without reevaluation of the need for continued therapy. Continuous long-term use of product is not recommended
| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.