Llyn yn y Rhinogydd yng Ngwynedd yw Llyn Cwm Mynach. Saif i'r dwyrain o gopa Diffwys, ac i'r gorllewin o Y Garn. Mae ganddo arwynebedd o 14 acer ac mae 918 troedfedd uwch lefel y môr.
Mae Afon Cwm-mynach yn llifo nifer o nentydd yn llifo tua'r de o'r llyn, ac yn llifo trwy warchodfa RSPB Coed Garth Gell cyn ymuno ag Afon Mawddach. Ceir brithyll yn y llyn, ond mae glaw asid wedi effeithio arno.
Llyfryddiaeth
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)