Y llanw yw ymchwydd a mewnlifiad rheolaidd lefel dyfroedd y môr mewn canlyniad i rym atyniad disgyrchiant rhwng y ddaear, y lleuad a'r haul. Mae newidiadau mewn lleoliad cymharol y tri chorff hyn yn achosi amrywiad yng ngraddfa'r llanw. Mae'r rhan fwyaf o lefydd yn y byd yn cael llanw dwywaith y dydd ond gan fod 'diwrnod llanw' yn parhau am 24 awr 51 munud nid ydynt yn digwydd ar yr un amser bob dydd o'r flwyddyn a chynhyrchir gwybodlenni arbennig yn lleol i ddangos hynny.
Terminoleg
Mae hogia ifanc o Aberdaron yn cytuno nad oes yna'r fath beth â “llanw isel”.
- llanw - pan mae'r môr i mewn,
- llenwi - y broses o'r llanw yn dod i mewn. ('Mae'n llenwi'n gyflym hogia‘)
- pen llanw - high tide (“Mae yna lanw uchal wythnos nesa”: cyfeira hyn at spring tide pan mae'r môr yn uwch na'r arfer, rhyw ddwywaith dair y flwyddyn.
- gorllan - pen llanw.
- llinell gorllan - high tide mark, y llinell a welir ar y creigiau sy'n dangos pa mor uchel y mae'r môr yn codi.
- trai - y môr allan 'Mae hi'n treio' - y broses o'r môr yn mynd allan (ebbing)
- distyll - y trai pella. Dywed pysgotwyr ”awn ni allan ar y distyll' (y pysgod yn dwad i mewn efo'r llanw) h.y. fel mae'r môr yn troi ac yn dechra llenwi eto.
Mae trai mawr yn syrthio i'r un categori a llanw uchal sef y pellter mwya ar Spring tide e.e. ar drai mawr mae'n bosib gweld olion yr hen goedwig ar draeth Porth Neigwl. Efallai fod yna erbyn heddiw ddefnydd o 'ben trai' yn hytrach na distyll, ac o ddewis, mae hynny yn well na llanw isel.[1]
-
Llanw Mawr (spring tide)
-
Llanw Bach (neap tide)
-
Newid llanw
Cyfeiriadau