Lewisham (Bwrdeistref Llundain)
Bwrdeistref Llundain Lewisham Arwyddair Salus Populi Suprema Lex Math Bwrdeistref Llundain , ardal ddi-blwyf Ardal weinyddol Llundain Fawr Poblogaeth 303,536 Sefydlwyd 1 Ebrill 1965 1965 Pennaeth llywodraeth Damien Egan Gefeilldref/i Charlottenburg-Wilmersdorf, Antony, Matagalpa Daearyddiaeth Sir Llundain Fawr (Sir seremonïol )Gwlad Lloegr Arwynebedd 35.1488 km² Cyfesurynnau 51.4453°N 0.0203°W Cod SYG E09000023, E43000213 Cod post SE, BR GB-LEW Gwleidyddiaeth Corff gweithredol mayor's cabinet, Lewisham borough council Corff deddfwriaethol council of Lewisham London Borough Council Swydd pennaeth y Llywodraeth Maer Lewisham Pennaeth y Llywodraeth Damien Egan
Bwrdeistref yn Llundain Fwyaf , Lloegr , yw Bwrdeistref Llundain Lewisham neu Lewisham (Saesneg : London Borough of Lewisham ). Mae'n rhan o Lundain Fewnol . Fe'i lleolir ar lan ddeheuol Afon Tafwys ; mae'n ffinio â Southwark i'r gorllewin, Bromley i'r de, a Bexley i'r dwyrain; saif gyferbyn â Tower Hamlets ar lan ogleddol yr afon.
Lleoliad Bwrdeistref Lewisham o fewn Llundain Fwyaf
Ardaloedd
Mae'r bwrdeistref yn cynnwys yr ardaloedd canlynol:
Etholiadau Lleol
Crynodeb o ganlyniadau etholiadol y cyngor:
Rheolaeth lawn
Llafur
Dem Rhyddfrydol
Plaid Werdd
Ceidwadwyr
Arall
2006
Heb reolaeth gan un blaid
26
17
6
3
2
2002
Llafur
45
4
1
2
2
1998
Llafur
61
4
-
2
-
1994
Llafur
63
3
-
1
-
1990
Llafur
58
3
-
6
-
1986
Llafur
50
-
-
17
-
1982
Llafur
43
-
-
24
-
1978
Llafur
44
-
-
23
-
1974
Llafur
51
-
-
9
-
1971
Llafur
55
-
-
5
-
1968
Ceidwadwyr
19
-
-
41
-
1964
Llafur
45
-
-
15
-
Mae Lewisham bron yn unigryw am eu bod wedi ethol ei Maer yn uniongyrchol wedi pleidlais leol yn 2002. Methwyd a chael yr un system ar gyfer Ceredigion.
Addysg
Mae tri choleg chweched dosbarth yn Lewisham sef; Christ the King Sixth Form College, and Crossways Academy Archifwyd 2010-07-28 yn y Peiriant Wayback a Lewisham College. Mae hefyd yn gartref i Goldsmiths College a'r coleg dawns enwog Laban Dance College . Bellach mae Goldsmiths wedi tyfu i fod yn Goleg mawr iawn ac mae ei fyfyrwyr yn dominyddu ardal New Cross. Sefydlwyd y feithrinfa gyntaf yn y byd ym 1914 gan Rachel McMillan yn Deptford, Lewisham, a'r Hospis cyntaf (St Christophers) yn Sydenham, Lewisham.
Enwogion
James Callaghan , gwleidydd ac aelod seneddol dros Gaerdydd ) (Blackheath)
James Clark Ross , teithiwr (Blackheath)
WG Grace , cricedwr (Sydenham)
Isaac Hayward , gwleidydd (Deptford)
Frederick John Horniman , marsiandwr te a dyngarwr (Forest Hill)
Leslie Howard , actor (Forest Hill)
Glenda Jackson , gwleidydd ac actores (Blackheath)
David Jones , arlunydd a bardd (Brockley)
Laurence Llewelyn-Bowen , cynllunydd (Blackheath )
Eleanor Marx , gwleidydd (Sydenham)
Spike Milligan , comedïwr (Catford, Crofton Park ac Honor Oak)
Pedr I, tsar Rwsia (Deptford)
Cicely Saunders , sylfaenydd y mudiad hosbisau (Sydenham)
Willard White , canwr opera (Brockley)
Henry Williamson , awdur (Ladywell)
Darren Johnson , gwleidydd (Brockley)
Ginger Baker , drymiwr a cherddor
Daniel Bedingfield , canwr
Natasha Bedingfield , cantores
Rosa May Billinghurst , cantores
Kate Bush , cantores
Abraham Colfe , ficar a dyngarwr
Emily Wilding Davison , swffragét a fu farw ar gwrs rasio Epsom
Walter de la Mare , bardd a nofelydd
Jazz Dhiman , actor
Jimi Hendrix , gitarydd
Jessica Hynes , comedïwraig
Billy Jenkins , cyfansoddwr jas a blues
Frederick Lanchester , cynhyrchwr ceir
Jude Law , actor a chynhyrchydd ffilm
Marie Lloyd (Matilda Alice Victoria Wood), cantores theatr gerdd
Ray Mears , awdur a chyflwynydd teledu
Albert Meltzer , anarchydd
Sheree Murphy , actores
Edith Nesbit ysgrifennydd a Fabian
Peter O'Donnell , awdur Modesty Blaise
Gladys Powers , milwraig olaf yn byw o'r Rhyfel Byd Cyntaf
Joseph Prendergast , pennaeth a sylfaenydd Ysgol Prendergast
Luke Pritchard prif leisydd y Kooks
Doris Stokes , ysbrydegydd
David Sylvian , canwr
Denis Thatcher , gŵr Margaret Thatcher
Desmond Tutu , archesgob ac arweinydd
Ian Wright , pêl-droediwr a chyflwynydd teledu
Bradley Wright-Phillips , pêl-droediwr a mab i Ian Wright
Bill Wyman , aelod o'r Rolling Stones