Lewis Hopkin |
---|
Ganwyd | c. 1708 Cymru |
---|
Bu farw | 1771 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | bardd |
---|
Plant | Hopkin Hopkin |
---|
Bardd ac athro barddol o Forgannwg oedd Lewis Hopkin (1708 - 1771).[1] Fe'i cofir yn bennaf am ei gysytlltiad â Iolo Morganwg.
Bywgraffiad
Ganed Hopkin ym mhlwyf Llanbedr-ar-fynydd, Sir Forgannwg, yn 1708, ond symudodd i fyw yn Hendre Ifan Goch, plwyf Llandyfodwg. Daeth yn Anghydffurfiwr amlwg.[1]
Gwaith llenyddol
Roedd yn adnabyddus yn y Fro fel athro barddol yn nhraddodiad gwerinol Morgannwg. Dywedir ei fod wedi dysgu rheolau Cerdd Dafod i Iolo Morganwg ac Edward Evan. Ceisiodd Iolo Morganwg wneud ffigwr lled-dderwyddol o Lewis Hopkin a gramadegyddion eraill Blaenau Morgannwg, gan honni eu bod yn cynrychioli to olaf olyniaeth o feirdd yn perthyn i'r Traddodiad Barddol canoloesol, ond ffrwyth addysg werinol y 18g oeddynt a cheisio adennill y traddodiad trwy astudio gwaith beirdd y gorffennol wnâi Hopkin a'i gyd-feirdd: ffugiad yn unig yw honiadau Iolo Morganwg.[1]
Cyhoeddodd un gyfrol o gerddi, sef Y Fêl Gafod (1812). Nid oedd yn fardd mawr, ond mae rhai o'i gerddi caeth yn dangos ei feistroliaeth ar rai o'r hen fesurau, megis y triban.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 G. J. Williams, Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956).