Beirniad celf a churadur o Sais a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn Unol Daleithiau America oedd Lawrence Alloway (17 Medi 1926 – 2 Ionawr 1990). Arbenigodd mewn celf fodern yr Unol Daleithiau yn ail hanner yr 20g, yn enwedig mynegiadaeth, celf haniaethol, a chelf bop. Priodolir iddo fathu'r enw pop art.
Ganwyd yn Wimbledon, Llundain, yn fab i werthwr llyfrau. Cafodd y rhan fwyaf o'i addysg yn y cartref oherwydd iddo ddioddef twbercwlosis yn ei fachgendod.[1] Magodd Lawrence ddiddordeb mewn diwylliant poblogaidd, yn enwedig comics a ffilmiau gwyddonias.[2] Astudiodd hanes celf ym Mhrifysgol Llundain, er na derbyniodd ei radd.[3] Priododd yr arlunydd o Gymraes Sylvia Sleigh yn 1954.
Gwasanaethodd yn swydd isgyfarwyddwr Sefydliad Celf Gyfoes Llundain (ICA) yn y cyfnod 1955–57. Roedd Alloway yn hoff o waith Eduardo Paolozzi a William Turnbull, ac ymunodd â'r Independent Group yn 1955.[2] Wedi iddo adael yr ICA, cyhoeddwyd ysgrif ddylanwadol ganddo yn y cyfnodolyn Architectural Design yn Chwefror 1958, dan y teitl "The Arts and the Mass Media". Yn y traethawd hwn amlinellir cysyniadau sylfaenol Alloway ynglŷn â chelf, sy'n gwrthod y ddeuoliaeth uchel gelf—kitsch a boblogeiddwyd gan Clement Greenberg, gan hawlio bod "continwwm celf boblogaidd yn dilyn hynt o ddata i ffantasi".[4]
Ymwelodd Alloway â'r Unol Daleithiau yn 1958 gyda rhodd gan yr Adran Wladol i astudio celf Americanaidd.[2] Symudodd i'r wlad yn 1961 i ddarlithio am gyfnod byr yng Ngholeg Bennington, Vermont, cyn iddo gymryd swydd uwch-guradur yn amgueddfa'r Guggenheim, Dinas Efrog Newydd. Yno fe drefnodd arddangosfeydd o waith y Mynegiadwyr Haniaethol ac arlunwyr Art Informel, yn ogystal â chelf bop a Minimaliaeth.[5] Gadawodd y swydd yn 1966 yn sgil ffrae rhyngddo a chyfarwyddwr y Guggenheim, Thomas Messer, ynglŷn â detholiadau'r arddangosfa Americanaidd ar gyfer y Venice Biennale.[1]
Wrth i'r 1960au mynd rhagddi, pwysleisiodd Alloway yn fwyfwy ddiffiniad agored o gelf, a'r angen am y celfyddydau cain a diwylliant poblogaidd i gyflenwi ei gilydd. Yn ei feirniadaeth, rhagflaenai ôl-fodernwyr y 1980au drwy wfftio hierarchaeth esthetig ac ymdrin â chelfyddydweithiau mewn cyd-destunau priodol. Ymddangosodd ei ysgrifau beirniadol yn aml yn The Nation (1968–81) ac Artforum (1971–76).[3] Cydsefydlodd y cylchgrawn Art Criticism gyda'r beirniad Donald Kuspit. Fe'i penodwyd yn athro hanes celf ym Mhrifysol Talaith Efrog Newydd, Stony Brook yn 1968, ac addysgodd yno nes 1981.[1] Cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth ac ysgrifau, gan gynnwys Topics in American Art Since 1945 (1975) a Network: Art and the Complex Present (1984), a monograff ar waith Roy Lichtenstein yn 1983. Ysgrifennodd Alloway hefyd feirniadaeth ffilm ar gyfer y cylchgrawn British Movie, a chyhoeddodd y gyfrol Violent America: the Movies 1946–64 yn 1971.
Dioddefodd o anhwylder niwrolegol, a bu'n defnyddio cadair olwyn ers 1981. Bu farw yn ei gartref ym Manhattan o ataliad ar y galon yn 63 oed.[1]
Cyfeiriadau
Darllen pellach
- Lucy Bradnock, Courtney J. Martin, a Rebecca Peabody, Lawrence Alloway: Critic and Curator (Los Angeles: Getty, 2015).
- Nigel Whiteley, Art and Pluralism: Lawrence Alloway’s Cultural Criticism (Lerpwl: Liverpool University Press, 2012).