Arlunydd o Gymru oedd Syr John Kyffin Williams (9 Mai1918 – 1 Medi2006) a adwaenwyd fel Kyffin Williams.
Bywgraffiad
Cafodd ei eni yn Llangefni, Ynys Môn. Methodd archwiliad meddygol i ymuno â'r Fyddin Brydeinig ym 1941 oherwydd ei gyflwr epilepsi, ac felly dywedodd ei feddyg wrtho i ymhél â chelf. Cyn ei farwolaeth roedd nifer yn ei ystyried yn beintiwr olew Cymreig mwyaf ei oes. Ei hoff themâu oedd tirwedd a phobl ei ardal enedigol, ond ym 1968 fe aeth i Batagonia i gofnodi'r Wladfa Gymreig yn ei gelf. Cafodd ei ethol yn aelod o Academi Frenhinol y Celfyddydau ym 1976 ac fe'i urddwyd yn Farchog CadlywyddUrdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2000. Yn ei flynyddoedd olaf trigai Kyffin Williams ym Mhwllfanogl, Ynys Môn, lle y bu iddo farw o gancr yn 2006. Claddwyd ef ym mynwent Llanfair-yng-Nghornwy.
Cymynrodd Kyffin Williams
Ar ôl ei farwolaeth, gadawodd Kyffin ran helaeth o'i gasgliad i'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Roedd hyn yn cynnwys amryw o weithiau celf ei hun ynghyd â gweithiau artistiaid yr oedd ef yn ei edmygu. Ynghyd â'i gasgliad, gadawodd dros £400,000 iddynt greu storfa penodol ynghyd â cyflogi staff i gatalogio a ddigido'r casgliad.
Yn 2008 cychwynnodd brosiect Cymynrodd Kyffin Williams. Mae'r casgliad yn cynnwys "1200 o weithiau ar bapur, 200 darlun olew a thros 300 o brintiau gwreiddiol yn darlunio tirlun a phobl Cymru; archif gynhwysfawr yn cynnwys gohebiaeth, dyddiaduron a llawysgrifau, ynghyd â grŵp mawr o ffotograffau a sleidiau".[1]