Bwyd traddodiadol o Corea ydy kimchi (Hangul: 김치), gimchi, kimchee, neu kim chee, wedi ei wneud o lysiau a sbeisys amrywiol. Caiff ei fwyta fel arfer fel by

Bwyd traddodiadol o Corea ydy kimchi (Hangul: 김치), gimchi, kimchee, neu kim chee, wedi ei wneud o lysiau a sbeisys amrywiol. Caiff ei fwyta fel arfer fel byrbryd (Coreeg: banchan, 반찬) i gyd-fynd gyda phryd o fwyd. Ychwanegir fel cynhwysyn wrth goginio rhai prydau. Daw ei flas cryf o'r broses o eplesu dros gyfnod o amser, er nid yw pob amrywiad yn gwneud hyn. Mae cannoedd o amrywiadau o kimchi, yn aml yn cynnwys un prif gynhwysyn megis bresych Napa, rhuddygl, nionyn gwyrdd neu ciwcymbr.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.