Teulu o seigiau (neu brydau bwyd) yw Kibbeh (/k ɪ b i /, hefyd kubba a sillafiadau eraill; Arabeg: كبة) sydd wedi'u seilio ar friwgig sbeislyd, niony
| Enghraifft o: | saig o gig |
|---|---|
| Math | bwyd, saig |
| Deunydd | bulgur, Briwgig, nionyn |
| Gwlad | Irac, Syria, Libanus |
| Rhan o | coginiaeth yr Aifft, Armenian cuisine, Iraqi cuisine, Jordanian cuisine, Kurdish cuisine, coginio Libanus, coginiaeth Palaesteinaidd, bwyd o Syria |
| Enw brodorol | كبة |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/065pt4 |
| Quora | Kibbeh |
Teulu o seigiau (neu brydau bwyd) yw Kibbeh (/k ɪ b i /, hefyd kubba a sillafiadau eraill; Arabeg: كبة) sydd wedi'u seilio ar friwgig sbeislyd, nionyn, a grawn. Mae'n bryd hynod o boblogaiddyn y Lefant (a rhannau eraill o'r Dwyrain Canol).[1][2][3][4]
Mewn bwyd o'r Lefant, mae kibbeh fel arfer yn cael ei wneud trwy ddyrnu gwenith bulgur a chig nes eu malu'n bast mân a'i ffurfio'n beli gyda chnau pinwydd a sbeisys wedi'u tostio. Yn aml, caiff ei haenu a'i goginio ar hambwrdd metal, neu ei ffrio'n ddwfn, ei grilio, neu ar adegau caiff ei weini'n amrwd.[5] Mewn bwyd Mesopotamaidd, ceir fersiynau gyda reis neu farina (sef gwenith wedi'i falu).[6] Mae rhai ryseitiau'n ychwanegu semolina.[7]
Ystyrir Kibbeh yn ddysgl genedlaethol yn Syria ac yn enwedig yn Aleppo,[8] ac mae'n ddysgl boblogaidd yn y Dwyrain Canol er enghraifft yn Libanus, Palestina, Gwlad yr Iorddonen, ac ati. Mae amrywiadau i'w cael yng Nghyprus, yr Aifft, Israel, Irac, Iran, Gwlff Persia, Armenia a Thwrci.[2] Erbyn hyn, fe'i ceir hefyd ledled y gwledydd America Ladin - gwledydd a dderbyniodd lawer o fewnfudwyr o'r Levant ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20g,[9] yn ogystal â rhannau o Ogledd America.[10]
Mae'r gair yn deillio o'r gair Arabeg Clasurol (kibbeh yn Arabeg Gogledd Levantine), kubbah, sy'n golygu "pêl" [11] neu "cromen".[12] Defnyddir trawslythrennau amrywiol o'r enw mewn gwahanol wledydd: yn Saesneg, kibbe a kibbeh.
Mewn bwyd o'r Lefant, gelwir amrywiaeth o seigiau wedi'u gwneud â bulgur (gwenith wedi cracio) a briwgig cig oen yn kibbeh. Mae dinas Aleppo (Halab) yng ngogledd Syria yn enwog am fod â mwy na 17 o wahanol fathau o'r pryd yma.[13] Mae'r rhain yn cynnwys:

Mae Kibbeh nayyeh yn ddysgl o gig amrwd wedi'i gwneud o gymysgedd o fulgur, cig oen wedi'i friwio'n fân iawn neu gig eidion tebyg i tartar stêc, a sbeisys y Dwyrain Canol, wedi'i weini ar blat fawr bren, yn aml fel rhan o meze yn Libanus a Syria, wedi'i addurno â dail mintys ac olew yr olewydd, a'i weini gyda nionod neu scallions gwyrdd, pupur poeth gwyrdd, a bara pita / poced neu fara markouk. [1] Oherwydd bod kibbeh nayyeh yn amrwd, mae angen cig o ansawdd da ac fe'i ystyrur fel ffordd draddodiadol i anrhydeddu gwesteion arbennig.[2]
Mae Kubba Mosul o Irac yn wastad ac yn grwn fel disg.[2] Fersiwn Irac o kibbeh yw Kubba halab a grëwyd gyda chramen reis ac a enwyd ar ôl y ddinas fwyaf yn Syria, Aleppo. Fersiwn Iracaidd a Chwrdaidd yw Kubbat Shorba a baratoir fel stiw, a wneir yn gyffredin gyda saws tomato a sbeisys. Yn aml mae'n cael ei weini gydag <i id="mweA">arak</i> a saladau amrywiol.[14]
Mae kubbi kishk yn gawl Syriaidd sy'n cynnwys "torpidos " neu "beli pel-droed" kubbi mewn iogwrt (kishk) a photes menyn gyda dail bresych wedi'u stiwio. Cawl arall, tebug yw kibbeh hamda, sy'n cynnwys stoc cyw iâr gyda llysiau (fel arfer cennin, seleri, maip a chourgettes), sudd lemwn a garlleg, gyda kibbeh bach â reis daear fel twmplenni.[15] Yn y diaspora Iddewig o Syria mae hyn yn boblogaidd yn Pesach ac fel y pryd bwyd cyflym ar y diwrnod cyn Yom Kippur.[16]
Mae rhai bwydydd Iddewig rhanbarthol yn cyfuno kibbeh ag elfennau a gymerwyd o fwyd America Ladin, er enghraifft, mae'n nodweddiadol o Iddewon Syria ym Mecsico i fwyta'r kibbeh traddodiadol gyda verde salsa.[17]
Ar arfordir Colombia, mae'r amrywiadau mwyaf lleol o'r ddysgl yn defnyddio cig eidion yn lle cig oen, ond gellir dod o hyd i'r rysáit wreiddiol, neu un â chymysgedd o gig eidion ac oen, yn cael ei arlwyo gan boblogaeth fawr y Dwyrain Canol o'r ardal. Bron fod y pryd wedi cael ei dderbyn fel y pryd traddodiadol, mewn rhai llefydd, ac yn aml mae'n cael ei weini mewn achlysuron cymdeithasol. Pan gaiff ei weini fel dysgl leol wedi'i mabwysiadu, fe'i cynigir yn aml fel cychwyn ynghyd â danteithion rhanbarthol eraill, gan gynnwys empanadas, tequeños a carimañolas.[18]
Caiff y quibe (neu kibe) o Frasil ei stwffio â catupiry neu requeijão, saws sy'n debyg i ricotta a chaws hufen o darddiad Portiwgaleg. Mae'r rhan fwyaf o kibbeh Brasil yn defnyddio cig eidion yn unig.
Ymhlith yr amrywiadau eraill mae tahini, carne de soja (math o brotein soi), seitan (cig-amgen glwten o Japan) neu toffw (ceuled ffa soia) fel stwffin.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.