Ketuvim

Un o dair rhan y Beibl Hebraeg yw'r Ketuvim (Hebraeg am "ysgrifeniadau"). Casgliad o hanesion, barddoniaeth, gwirebau, llên ddoethineb, datguddiadau, a litwrgi

Ketuvim
Ketuvim
Enghraifft o:ysgrythur Edit this on Wikidata
Rhan oY Beibl Hebraeg Edit this on Wikidata
IaithHebraeg Beiblaidd Edit this on Wikidata
CyfresY Beibl Hebraeg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLlyfr y Salmau, Llyfr y Diarhebion, Job, Caniad Solomon, Llyfr Ruth, Llyfr Galarnad, Llyfr y Pregethwr, Llyfr Esther, Llyfr Daniel, Llyfr Esra, Llyfr Nehemeia, Llyfr Cyntaf y Cronicl, Ail Lyfr y Cronicl Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01lrc9 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un o dair rhan y Beibl Hebraeg yw'r Ketuvim (Hebraeg am "ysgrifeniadau"). Casgliad o hanesion, barddoniaeth, gwirebau, llên ddoethineb, datguddiadau, a litwrgi ydyw.

Gellir rhannu ei un ar ddeg o lyfrau yn bedair adran: y llyfrau barddonol (Llyfr y Salmau, Llyfr y Diarhebion, a Llyfr Job), y Megillot, sef "sgroliau" (Cân y Caniadau, Llyfr Ruth, Llyfr Galarnad, Llyfr y Pregethwr, a Llyfr Esther), proffwydoliaeth (Llyfr Daniel), ac hanes (Llyfr Esra a Llyfr y Croniclau).[1] Gellir hefyd ddosbarthu'r llyfrau yn weithiau hanesyddol (Croniclau ac Esra), barddoniaeth (Salmau, Galarnad, a Chân), a straeon byrion (Ruth ac Esther)—sydd i gyd yn cyfeirio'n ôl at y Tora a'r Nevi'im—yn ogystal â'r llên ddoethineb (Diarhebion, Job, a Phregethwr) a'r broffwydoliaeth neu ddatguddiad (Daniel).[2]

Yn ôl y traddodiad Iddewig, priodolir y Salmau i'r Brenin Dafydd, a'r Gân, Diarhebion a Phregethwr i'r Brenin Solomon. Darllenir pump o lyfrau'r Ketuvim, y Megillot, gan yr Iddewon yn litwrgi adeg eu gwyliau crefyddol: y Gân yn y Pasg Iddewig, Ruth yng Ngŵyl yr Wythnosau (Shavuot), Galarnad yn Tisha B'Av, Pregethwr yn Sukkot, ac Esther yng Ngŵyl y Gyfeddach (Pwrim).[2]

Ysgrifennwyd llyfrau'r Ketuvim dros gyfnod hir, o'r 6g CC i'r 2g CC. Ni chawsant i gyd eu derbyn yng nghanon y Beibl Hebraeg nes yr 2g OC.[1] Mae Llyfr Esra yn cynnwys Llyfr Nehemeia, a ystyrir yn llyfr ar wahân yn y Beibl Cristnogol, sydd hefyd yn rhestru'r Croniclau yn ddau lyfr (1 a 2).

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Ketuvim. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Medi 2018.
  2. 2.0 2.1 Sara E. Karesh a Mitchell M. Hurvitz, Encyclopedia of Judaism (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 270–71.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.