Keith Clark

Biwglwr ym Myddin yr Unol Daleithiau oedd Keith Collar Clark (21 Tachwedd 1927 – 10 Ionawr 2002)[1] sy'n enwog am ganu'r utganiad "Taps" yn angladd yr

Keith Clark
Keith Clark
Ganwyd21 Tachwedd 1927 Edit this on Wikidata
Grand Rapids Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ionawr 2002 Edit this on Wikidata
o ymlediad aortaidd Edit this on Wikidata
Fort Pierce Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethtrympedwr Edit this on Wikidata

Biwglwr ym Myddin yr Unol Daleithiau oedd Keith Collar Clark (21 Tachwedd 192710 Ionawr 2002)[1] sy'n enwog am ganu'r utganiad "Taps" yn angladd yr Arlywydd John F. Kennedy ym 1963. Canodd y chweched nodyn yn ddigywair, ac i nifer roedd y camgymeriad hwn yn symbol o alar y genedl Americanaidd.[2]

Bywyd cynnar

Ganwyd Keith Clark yn Grand Rapids, Michigan. Dysgodd y trwmped pan oedd yn blentyn.

Milwr

Roedd y Rhingyll Keith Clark yn brif drympedwr Band Byddin yr Unol Daleithiau pan cafodd yr Arlywydd Kennedy ei lofruddio ar 22 Tachwedd 1963. Ar ddiwrnod yr angladd, 25 Tachwedd 1963, cafodd Clark ei orchymyn i ganu "Taps". Cymerodd ei le am 12:15, a safodd yn y glaw mân heb gôt uchaf am bron i dri awr. Ar ôl y saliwt 21-canon, taniodd griw o reifflwyr dri thaniad er cof am Kennedy. Roedd y criw yn sefyll dim ond pum llath i ffwrdd o Clark, ac felly cafodd ei daro'n fyddar am eiliad. Yna, am 15:08, canodd "Taps" gan faglu ar y chweched nodyn.[3][4]

Wedi'r angladd, tybiodd nifer o bobl i Clark dorri'r nodyn yn fwriadol,[5] ond yn ôl Clark pwysau yn unig oedd achos y camgymeriad.[2]

Arddangosir y biwgl ym Mynwent Genedlaethol Arlington yn rhan o arddangosfa ar hanes "Taps".

Bywyd wedi'r fyddin

Ymddeolodd o'r fyddin ym 1966. Addysgodd gerddoriaeth yng Ngholeg Houghton yn Houghton, Efrog Newydd. Symudodd i Florida ym 1980 ac roedd yn byw yn Port Charlotte, Florida, adeg ei farwolaeth. Bu farw Clark yn 74 oed mewn ysbyty yn Fort Pierce, Florida, o ymlediad aortaidd o ganlyniad i ganu'r trwmped mewn datganiad cerddorfa.[3]

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Keith Clark, Bugler at JFK’s Funeral. Taps Bugler. Adalwyd ar 26 Awst 2013.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) A Bugle Call Remembered - Taps at the funeral of President John F. Kennedy. Taps Bugler. Adalwyd ar 26 Awst 2013.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Goldstein, Richard (17 Ionawr 2002). Keith Clark, Bugler for Kennedy, Dies at 74. The New York Times. Adalwyd ar 25 Awst 2013.
  4. (Saesneg) Lowens, Irving (1 Rhagfyr 1963). Accurate Listing of Funeral Music. The Washington Star. Llyfrgell ac Amgueddfa Arlywyddol John F. Kennedy. Adalwyd ar 26 Awst 2013.
  5. (Saesneg) Bugler recalls missing note while playing Taps at Kennedy funeral. Associated Press (14 Tachwedd 1988). Adalwyd ar 26 Awst 2013.

Dolenni allanol

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.