Model o Gymru ydy Kate Lambert (ganwyd 16 Medi1983)[1] sy'n cael ei hadnabod gyda'r llysenw "Kato". Mae hefyd yn ddylunydd ffasiwn ac yn wraig busnes. Cafodd ei geni yn Llanbrynmair, Powys a'i magu yng Nghymru, ond symudodd i Unol Daleithiau'r America yn 2007.
Un o brif wynebau steampunk ydy Kato, ac yn y gorffennol mae wedi cael ei galw yn "uwchfodel steampunk" ("the supermodel of steampunk")[2][3] Cafodd arwres y comic Steampunk - Lady Mechanika - ei henwi ar ei hôl.[4] Mae ei gwaith i'w weld drwy holl lyfau celf a ffasiwn steampunk yn cynnwys International Steampunk Fashions, ble mae ei ffotograff i'w weld ar y clawr.[5]
Ymddangosodd Kato hefyd ar glawr Awst 2014 o'r cylchgrawn Bizarre,[6] a roddodd yr enw "steampunk idol" arni ac mae'n ei galw'n "Pin-up legend". Ymddangosodd hefyd ar glawr Gwanwyn 2012 o FEY,[7] a chlawr Medi 2012 o Ladies of Steampunk[8] ac Ebrill 2013 o LoSP Bronze Age (NSFW)[9]. Yng Ngorffennaf 2016 roedd ei gwyneb i'w weld ar glawr Phantasm ble y galwyd hi'n "The Queen of Steam".[10]
Cefndir
Hi oedd 3edd merch y peintiwr celf Terence Lambert a Glenys (née Hulme) ei wraig, a oedd yn brifathrawes. Cafodd ei magu yn Hafodyllan [11], cyn-reithordy Llanbrynmair a oedd yn sefyll y tu ôl i fynwent o'r 13g[12]. Mae wedi dweud mai dyma oedd y sbardyn iddi ddefnyddio llawer o bethau Victorianaidd yn ei gwisgoedd.[13] Gadawodd yr ysgol uwchradd pan oedd yn 16 oed ac aeth i'r tec lleol i arbenigo mewn celf.[14] Wedyn, gwnaeth gwrs mewn ffasiwn a thecstiliau yng Nghaerfyrddin ble y graddiodd hi. Cychwynodd werthu dread hair falls mewn marchnadoedd yma ac acw drwy Dde Cymru ac arlein; o dipyn i beth tyfodd ei busnes yn llwyddiannus.