Actores o'r Unol Daleithiau oedd June Lockhart (25 Mehefin 1925 – 23 Hydref 2025). Gyda gyrfa yn ymestyn dros bron i 90 mlynedd, roedd Lockhart yn un o'r acto
| June Lockhart | |
|---|---|
| Ganwyd | 25 Mehefin 1925 Dinas Efrog Newydd |
| Bu farw | 23 Hydref 2025 Santa Monica |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Weriniaethol California |
| Tad | Gene Lockhart |
| Mam | Kathleen Lockhart |
| Plant | Anne Lockhart |
| Gwobr/au | Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am y Newydd Ddyfodiad Orau, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau Donaldson, Exceptional Public Achievement Medal |
| llofnod | |
Actores o'r Unol Daleithiau oedd June Lockhart (25 Mehefin 1925 – 23 Hydref 2025). Gyda gyrfa yn ymestyn dros bron i 90 mlynedd, roedd Lockhart yn un o'r actorion olaf i oroesi o Oes Aur Hollywood.
Ganwyd hi yn Ninas Efrog Newydd yn 1925. Roedd hi'n blentyn i Kathleen Lockhart a Gene Lockhart. Roedd ganddi ddau ferch, yn cynnwys yr actores Anne Lockhart.[1][2][3]
Bu farw yn 100 mlwydd oed yn ei chartref yn Santa Monica.[4]
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y llwyfan yn 8 oed, a chafodd sylw sylweddol gyda'i pherfformiad yn For Love or Money ar Broadway.
Roedd yn adnabyddus am ei gyrfa helaeth mewn ffilm, teledu, ac ar y lwyfan, gan gynnwys rolau nodedig yn A Christmas Carol (1938) a Meet Me in St. Louis.
Enillodd Lockhart gydnabyddiaeth eang am ei rolau fel mam yn y gyfres deledu Lassie a Lost in Space, yn ogystal â chwarae Dr. Janet Craig ar y comedi sefyllfa CBS Petticoat Junction. Cafodd ei henwebu ddwywaith am Wobr Emmy ac ennillodd wobr Tony.[5][6][7][8]
Rhestr Wicidata:
| Ffilm | Blwyddyn |
|---|---|
| All This, and Heaven Too | 1940 |
| Sergeant York | 1941 |
| Adam Had Four Sons | 1941 |
| Forever and a Day | 1943 |
| The White Cliffs of Dover | 1944 |
| Meet Me in St. Louis | 1944 |
| Son of Lassie | 1945 |
| Keep Your Powder Dry | 1945 |
| She-Wolf of London | 1946 |
| Easy to Wed | 1946 |
| T-Men | 1947 |
| Bury Me Dead | 1947 |
| Time Limit | 1957 |
| Butterfly | 1982 |
| Strange Invaders | 1983 |
| Troll | 1986 |
| Rented Lips | 1988 |
| The Big Picture | 1989 |
| C.H.U.D. Ii: Bud The C.H.U.D. | 1989 |
| Dead Women in Lingerie | 1991 |
| Sleep With Me | 1994 |
| Lost in Space | 1998 |
| Deterrence | 2000 |
| Super Capers | 2009 |
| Wesley | 2009 |
Rhestr Wicidata:
| Cyfres | Cychwyn | Gorffen |
|---|---|---|
| Petticoat Junction | 1963 | 1970 |
| Lost in Space | 1965 | 1968 |
| Cold Case | 2003 | 2010 |
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.