Hanesydd Americanaidd oedd Jonathan Steinberg (8 Mawrth 1934 – 4 Mawrth 2021) sydd yn nodedig am ei fywgraffiad o Otto von Bismarck, Bismarck: A Life (2011).
Ganed yn Efrog Newydd i deulu Iddewig. Rabi yn synagog Park Avenue, Manhattan, oedd ei dad Milton Steinberg. Mynychodd Jonathan ysgol flaengar Walden, a dan nawddogaeth y teulu Warburg cafodd ei anfon i Brifysgol Harvard. Derbyniodd ei radd mewn economeg ym 1955.[1]
Aeth i Brifysgol Caergrawnt ym 1961 i gychwyn ar ei ddoethuriaeth dan oruchwyliaeth Harry Hinsley. Penodwyd Steinberg yn gymrawd ymchwil yng Ngholeg Crist ym 1963, ac yn gymrawd yng Neuadd y Drindod ac yn is-ddarlithydd yng Nghaergrawnt ym 1966. Cyhoeddodd ei draethawd doethurol ar ffurf y llyfr Yesterday's Deterrent: Tirpitz and the Birth of the German Battle Fleet (1965). Cafodd ei ddewis i diwtora Siarl, Tywysog Cymru ar bwnc hanes.[1]
Cyfeiriadau