Cerflunydd, arlunydd a nofelydd oedd Jonah Jones (17 Chwefror 1919 - 29 Tachwedd 2004). Cafodd ei eni yn Swydd Durham, Gogledd-ddwyrain Lloegr ond roedd yn byw
| Jonah Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Chwefror 1919 Tyne a Wear |
| Bu farw | 29 Tachwedd 2004 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | dylunydd graffig, cerflunydd |
| Priod | Judith Maro |
Cerflunydd, arlunydd a nofelydd oedd Jonah Jones (17 Chwefror 1919 - 29 Tachwedd 2004). Cafodd ei eni yn Swydd Durham, Gogledd-ddwyrain Lloegr ond roedd yn byw yng Nghymru ers 1948 pan agorodd ei weithdy yn Nhremadog, Gwynedd. Roedd yn briod â’r awdures Judith Maro.
Roedd Jonah Jones yn gweithio mewn sawl cyfrwng. Torrodd llythrennau mewn llechen, cerfiodd mewn maen a chreodd penddelwau mewn efydd. Roedd hefyd yn artist gwydr lliw ac yn arlunydd mewn dyfrlliw. Dylanwadwyd ei waith gan ddelweddaeth Gristnogol, chwedlau y Mabinogi a thirwedd Cymru. Yn ogystal, ysgrifennodd ddwy nofel, arweinlyfr am lynnoedd gogledd Cymru, casgliad o ysgrifau a bywgraffiad y pensaer enwog Syr Clough Williams- Ellis.
Mae’n enwog am ei benddelwau efydd o Syr Clough, Bertrand Russell a John Cowper Powys, ei gofebion i Dylan Thomas a Lloyd George yn Abaty Westminster, a hefyd ei gerfluniau ar adeilad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.