Roedd John Thomas Evans (14 Ebrill1770 – Mai 1799) yn fforiwr o Gymru a fu'n chwilio am yr "Indiaid Cymreig" ar hyd Afon Missouri, gan gynhyrchu un o’r mapiau cynharaf o’r afon hon.
Ganed John Evans yng Ngwredog Uchaf, plwyf Llanwnda ac fe'i bedyddiwyd 14 Ebrill 1770. Symudodd y teulu yn y man ar draws Afon Gwyrfai gan ymsefydlu yn yr Hafod Olau, Waunfawr.[1] Yn nechrau’r 1790au roedd diddordeb mawr yng Nghymru ac ymysg Cymry Llundain yn arbennig, yn y stori fod Madog ab Owain Gwynedd wedi darganfod America yn y 12g, a bod rhai o ddisgynyddion y Cymry yn dal i fyw yng Ngogledd America ac yn siarad Cymraeg. Credid mai llwyth y Mandan oedd y rhain. Esgorodd Iolo Morgannwg ar gynllun i deithio i America a chwilio am y Mandan ar hyd Afon Missouri, a chytunodd John Evans i fynd gydag ef. Yn y diwedd ni aeth Iolo, ac ar ei ben ei hun y teithiodd John Evans i America, gan gyrraedd Baltimore yn Hydref 1792. Yng ngwanwyn 1793 aeth i St. Louis yn Louisiana Sbaeneg, lle carcharwyd ef gan y Sbaenwyr am gyfnod gan eu bod yn amau ei fod yn ysbiwr.
Fodd bynnag erbyn Ebrill 1795 roedd wedi cael cefnogaeth yr awdurdodau Sbaenig i deithio i fyny'r Missouri a cheisio darganfod llwybr at y Môr Tawel o ran uchaf yr afon. Cafodd hyd i’r Mandan ar 23 Medi1796,[2] a threuliodd y gaeaf gyda nhw cyn dychwelyd i St. Louis yn 1797. Ni allodd ddarganfod unrhyw awgrym o eiriau Cymraeg yn eu hiaith. Roedd wedi teithio 1,800 milltir i fyny’r Missouri o’r fan lle mae’n aberu yn Afon Mississippi, a chynhyrchodd fap yn dangos cwrs yr afon. Daeth hwn i ddwylo Thomas Jefferson a throsglwyddodd Jefferson ef i Lewis a Clark fu’n fforio’r ardal ychydig yn ddiweddarach.
Parhaodd John Evans yng ngwasanaeth yr awdurdodau Sbaenig, ond bu farw yn New Orleans yn mis Mai 1799 wedi ei siomi'n fawr.
Mae 'r haul wedi machlud, a'r lleuad yn codi, A bachgen o Gymru yn flin gan ei daith;
Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Missouri, I chwilio am lwyth a lefarent ein hiaith.
Ymdrochai y sêr yn y tonnau tryloewon, Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy i hun;
"Pa le mae fy mrodyr?" gofynnai i'r afon
"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"
Yn 2014, daeth hanes John Evans i sylw ehangach fel testun y llyfr, ffilm, albwm ac ap symudol, i gyd o'r enw American Interior, a greuwyd a gynhyrchwyd gan y cerddor Gruff Rhys, canwr y Super Furry Animals.
Cyfeiriadau
↑Bob Owen, Yr Ymfudo o Sir Gaernarfon i'r Unol Daleithiau (i) (Trafodion Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 13 (1952)), t.46
David Williams (1963) ‘’John Evans a chwedl Madog’’ (Gwasg Prifysgol Cymru)
Gwyn A. Williams (1979) Madog: the making of a myth (Eyre Methuen) ISBN 0-413-39450-6
Gruff Rhys (2014) The Quixotic Journey of John Evans, His Search for a Lost Tribe and How, Fuelled by Fantasy and (Possibly) Booze, He Accidentally Annexed a Third of North America (Hamish Hamilton, Penguin Books Ltd.) ISBN 9780241146019