Gwirod sydd ag aeron meryw fel prif darddiad ei flas yw jin neu wirod meryw.[1] Gellir distyllu jin o unrhyw grawn, taten neu fetysen, ond iddo gael bla
| Enghraifft o: | gwirod |
|---|---|
| Math | jin Holand |
| Enw brodorol | Gin |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03dg3 |
Gwirod sydd ag aeron meryw fel prif darddiad ei flas yw jin neu wirod meryw.[1] Gellir distyllu jin o unrhyw grawn, taten neu fetysen, ond iddo gael blas aeron meryw. Gan amlaf caiff ei ddistyllu mwy nag unwaith.
Gwneir jin yn gyntaf yn yr Iseldiroedd yn yr 17g, a chywasgiad o'r gair Iseldireg genever (merywen) yw "jin".[2] Daeth yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain, yn enwedig Llundain, mewn cyfnod a elwir yn y Gin Craze.[3] Gelwir jin sych sydd ag ABV o tua 40% yn jin sych Llundeinig. Cafodd y rhai gwreiddiol eu cynhyrchu yn Llundain, ond heddiw gellir eu distyllu yn unrhyw le. Gellir hefyd trwytho jin ag eirin surion bach a siwgr i wneud y gwirodlyn a elwir yn jin eirin (Saesneg: sloe gin).
Gordon's yw'r jin sych Llundeinig mwyaf poblogaidd yn y byd. Fe'i gynhyrchir yng ngwledydd Prydain ers 1769, ac mae gan y cwmni Warant Frenhinol. Ymysg y brandiau eraill o jin yw Bombay Sapphire, Tanqueray, Beefeater, a Hendrick's. Distyllir Brecon Gin ym Mhenderyn.

Mae jin yn gynhwysyn craidd i fwy o goctels nag unrhyw gwirod arall.[4] Ymysg y diodydd cymysg poblogaidd sy'n cynnwys jin yw'r Tom Collins, y Singapore Sling, a'r jin a thonig.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.