Comedïwr ar ei sefyll, cyflwynydd teledu ac actor o Loegr yw James Anthony Patrick "Jimmy" Carr (ganed 15 Medi1972). Symudodd Carr i yrfa gomedi yn 2000[1][2] ac ar ôl sefydlu ei hun fel comedïwr ar ei sefyll, dechreuodd ymddangos mewn nifer o raglenni teledu Channel 4. Mae erbyn hyn yn cyflwyno y gêm banel 8 Out of 10 Cats yn ogystal â The Big Fat Quiz of the Year, gêm banel gomedi a ddarlledir ar ddiwedd mis Rhagfyr bob blwyddyn. Mae Carr hefyd wedi ymddangos yn rheolaidd fel panelydd gwadd ar raglenni comedi eraill megis Have I Got News for You, yn ogystal ag un ymddangosiad fel cyflwynydd, Never Mind the Buzzcocks, A League of their Own a QI.
Gwobrau
Gwobrau LAFTA 2008: Comedïwr ar ei sefyll gorau
Gwobrau LAFTA 2007: Dyn doniolaf
Gwobrau Comedi Prydain 2006 – Perfformiad comedi ar ei sefyll byw gorau
Enwebiad Rose D'Or 2006: Sioe gêm orau, 'Distraction'
Gwobrau LAFTA 2005: Dyn doniolaf
Enwebiad Rose D'Or 2004: Cyflwynydd gorau, 'Distraction'
Gwobr Loaded Lafta 2004 – Comedïwr ar ei sefyll gorau
Enillydd Gwobr Cymdeithas Deledu Frenhinol: Comedïwr newydd gorau ar y teledu
Enwebiad Gwobr Perrier: 2002
Enillydd Gwobr Time Out: Comedïwr ar ei sefyll gorau 2002