Jigglypuff

Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a grewyd gan Satoshi Tajiri yw Jigglypuff (Japaneg: プリン - Purin). Mae Jigglypuff yn un o'r cymeriadau

Jigglypuff
Jigglypuff

Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a grewyd gan Satoshi Tajiri yw Jigglypuff (Japaneg: プリン - Purin). Mae Jigglypuff yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga, y gemau fideo, a ddiolch i ei ymddangosiad anarferol.

Cymeriad

Daw'r enw Jigglypuff o'r geiriau Saesneg jiggle (siglo) a puff (pwff/chwyth). Daw'r enw Siapanëeg Purin o enw am fath o bwdin Siapaneaidd. Fel Pikachu cafodd Jigglypuff ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon) ac mae'n cael ei leisio yn yr anime gan Mika Kanai (Japaneg) a Rachael Lillis (Saesneg).

Ffisioleg

Mae Jigglypuff (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon teg (normal hyd at y chweched genhedlaeth o gemau) sydd yn edrych fel pêl pinc gyda llygaid mawr glas, clustiau mawr, a cudyn o wallt ar ei dalcen. Gall Jigglypuff ehangu ei gorff fel balŵn i dimensiynau enfawr neu gwastatáu'n hollol fflat. Mae hefyd gan Jigglypuff y pŵer i gwneud eu elynion gysgu wrth ganu hwiangerdd a mesmereiddio'r gwrthwynebydd gyda'u lygaid mawr tywynnog.

Ymddygiad

Jigglypuff a'i meicroffon

Mae Jigglypuff yn hoff iawn o berfformio o flaen gynulleidfa. Yn yr anime, bydd un Jigglypuff yn defnyddio meicroffon i berfformio ac i gyflawni ei freuddwyd o fod yn cantor enwog, yn anffodus bu'r gwrandawyr yn syrthio i gysgu yn syth. Mae'r Jigglypuff hyn yn cario ysgrifbin er mwyn tynnu llun ar wynebau'r cynulleidfa fel dial am syrthio i gysgu yn ystod y perfformiad.

Cynefin

Caiff Jigglypuff eu ffeindio o fewn ogofâu neu gwastatiroedd gwelltog. Hefyd caiff Jigglypuff eu ffeindio yn strydoedd trefi neu ddinasoedd.

Deiet

Mae Jigglypuff yn llysysyddion sydd yn bwyta aeron, ffrwythau a llysiau.

Effaith Diwyllianol

Unwaith cafodd Jigglypuff ei sôn ar CNN yn America yn ystod stori newyddion am Pokémon. Yn Ionawr 2006 canodd Donnell Bolton cân y Jigglypuff ar American Idol, ond ni enillodd Mr.Bolton rhan yn y sioe.

Ieithoedd Gwahanol

  • Almaeneg: Pummeluff - o pummelig (tew) a puff (pwff)
  • Ffrangeg: Rondoudou - o rond (crwn) a doudou (tedi)
  • Coreeg: 푸린 Purin

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.