Ffisegydd o Loegr yn Labordy Blackett yng Ngholeg Imperial Llundain yw Jessica Alice Feinmann Wade BEM.[1] Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar sail-polym
| Jess Wade | |
|---|---|
| Ganwyd | 1988 Llundain |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | ffisegydd |
| Cyflogwr | |
| Prif ddylanwad | Angela Saini |
| Mam | Charlotte Feinmann |
| Gwobr/au | Daphne Jackson Medal and Prize, Wikimedian of the Year – Honorable mention, Robin Perrin Award, Jocelyn Bell Burnell Medal and Prize, Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, Julia Higgins Medal, Change Agent Abie Award, Nature's 10, Gwobr Rosalind Franklin, UK Wikimedian of the Year |
| Gwefan | https://profiles.imperial.ac.uk/jessica.wade |
Ffisegydd o Loegr yn Labordy Blackett yng Ngholeg Imperial Llundain yw Jessica Alice Feinmann Wade BEM.[1] Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar sail-polymer allyrru golau deuodau (LEDs).[2] Mae ei gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg (STEM), yn hyrwyddo menywod mewn ffiseg [3][4] ac yn mynd i'r afael â gogwydd rhyw ar Wicipedia .[5][6]
Addysgwyd Wade yn Ysgol Uwchradd South Hampstead, gan raddio yn 2007.[4] Wedi hynny, ymrestrodd ar gwrs sylfaen mewn celf a dylunio yng Ngholeg Celf a Dylunio Chelsea,[7] ac yn 2012 cwblhaodd radd Meistr mewn Gwyddoniaeth mewn Ffiseg yng Ngholeg Imperial Llundain . Parhaodd yng Ngholeg Imperial, gan gwblhau ei PhD mewn ffiseg yn 2016,[8][9] lle goruchwyliwyd ei traethawd ar nanometroneg mewn lled - ddargludyddion organig o dan arweiniad Ji-Seon Kim.[8]
Ers 2018, mae Wade yn gydymaith ymchwil ôl-ddoethurol mewn electroneg blastig efo Coleg Imperial Llundain, gan ganolbwyntio ar ddatblygu a nodweddu ffilmiau tenau polymer sy'n allyrru golau [10][11] gan weithio gydag Alasdair Campbell a Matt Fuchter.[2] Ers Mai 2019, yn ôl Web of Science, hi yw'r awdur neu gyd-awdur 30 o bapurau a ddyfynnwyd 372 o weithiau.
Mae Wade wedi cyfrannu at ymgysylltu â'r cyhoedd i gynyddu cydraddoldeb rhyw mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg (STEM). Bu'n aelod o Fwrdd Menywod Ifanc Ymgyrch WISE a Chyngor Cymdeithas y Merched (WES), gan weithio gydag athrawon ledled y wlad drwy'r Cynllun Ysgogi Rhwydwaith Ffiseg (gan gynnwys prif sgyrsiau mewn ffeiriau addysg a chynadleddau athrawon). Mae hi'n amcangyfrif bod £5m neu £6m yn cael ei wario yn y DU i hyrwyddo gyrfa wyddonol i fenywod ond heb fawr o fesur o'r canlyniadau. Mae Wade wedi gwneud cyfraniad mawr i ymgyrch Wikipedia sy'n annog creu erthyglau Wikipedia am academyddion benywaidd nodedig, er mwyn hyrwyddo modelau rôl menywod mewn STEM. Mae'r gwaith yma yn cynnwys trefnu rhedeg 'golygathonau' Wicipedia - gan cynnwys digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017.[12][13][14]
Cydlynodd Wade dîm ar gyfer y 6ed Cynhadledd Ryngwladol Menywod mewn Ffiseg, a arweiniodd at wahoddiad i drafod gwaith y Sefydliad Ffiseg ar gydbwysedd rhyw yn yr Almaen.[15] Mae hi hefyd yn cefnogi ymgysylltiad myfyrwyr ysgol trwy weithgareddau a gwyliau ysgol, a threfnu cyfres o ddigwyddiadau i ferched yng Ngholeg Imperial Llundain.[16] Yn 2015 enillodd Wade y gweithgaredd ymgysylltu â gwyddoniaeth I'm a Scientist, Get me out of here![17] gan derbynio;r gwobr o £500, i gynnal diwrnod greenlight4girls yn yr adran ffiseg yng Ngholeg Imperial Llundain.[18]
Mae Wade yn gwasanaethu ar Bwyllgor IOP Llundain a'r De Ddwyrain,[19] Pwyllgor Menywod IOP mewn Ffiseg [20] a phwyllgor tryloywder a chyfle Juno yn Imperial.[21]
Cafodd Wade ei gyfweld fel rhan o TEDx London Women, a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2018.[22][23]
Mae Wade wedi derbyn sawl gwobr am gyfraniadau i wyddoniaeth, cyfathrebu mewn gwyddoniaeth, amrywiaeth a chynhwysiant. Yn 2015, dyfarnwyd Gwobr Cyfathrebwr Ffiseg Gyrfa Cynnar y Sefydliad Ffiseg 2015 [24] a gwobr Undeb y Imperial College am ei gyfraniad i fywyd coleg yn 2015.[25][26] Y flwyddyn nesaf, derbyniodd Wade Wobr Jocelyn Bell-Burnell y Sefydliad Ffiseg i Fenywod mewn Ffiseg 2016.[9]
Yn ystod 2018, enillodd Wade Fedal a Gwobr Daphne Jackson am "weithredu fel llysgennad cydnabyddedig yn rhyngwladol ar gyfer STEM" [27] a derbyniodd “grybwyll anrhydeddus” yng ngwobr Wicimediwr y Flwyddyn gan gyd-sylfaenydd Wikipedia, Jimmy Wales.[28]
Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i Wade yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2019 am wasanaethau i amrywiaeth rhyw mewn gwyddoniaeth.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.