Cantores, actores a chyflwynydd teledu Seisnig ydy Jane McDonald (ganed 4 Ebrill 1963). Daeth i enwogrwydd ar ôl iddi ymddangos ar raglen ddogfen y BBC The Cruise. Mae'n adnabyddus am ei hacen Swydd Efrog amlwg, ac mae wedi cyd-gyflwyno nifer o raglenni teledu, gan gynnwys Loose Women a gyflwynodd o 2004–10.