Irma Hughes de Jones |
---|
Ganwyd | 1918 |
---|
Bu farw | 18 Ebrill 2003 |
---|
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
---|
Galwedigaeth | golygydd, llenor |
---|
Llenor Cymraeg o'r Wladfa oedd Irma Hughes de Jones (1918 – 18 Ebrill 2003). Hi oedd golygydd Y Drafod o 1953 hyd ei marwolaeth yn 2003. Fe'i gelwir hefyd yn "Irma Ariannin" ac "Irma'r Drafod".
Ganwyd Irma Hughes de Jones yn 1918 ar fferm Erw Fair yn ardal Treorci, Dyffryn Camwy, Talaith Chubut. Ei thad oedd y golygydd Arthur Hughes. Dechreuodd Irma gyfrannu i'r Drafod yn 10 oed.[1]
Yn 1946, hi oedd y ferch gyntaf i ennill y gadair yn Eisteddfod y Wladfa, ac roedd yn fuddugol chwe gwaith eto: 1949, 1970, 1971, 1977, 1983, a 1987.[2]
Bu farw ar Ddydd Gwener y Groglith, 18 Ebrill 2003.[1]
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau