Ifan VI, tsar Rwsia

Ifan VI, tsar Rwsia
Ganwyd12 Awst 1740 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
Bu farw5 Gorffennaf 1764 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Shlisselburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwladweinydd Edit this on Wikidata
SwyddEmperor of all the Russias Edit this on Wikidata
TadDug Anthony Ulrich o Brunswick Edit this on Wikidata
MamAnna Leopoldovna Edit this on Wikidata
LlinachBrunswick-Bevern Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Sant Andreas, Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky Edit this on Wikidata
Ifan VI gyda'i fam.

Tsar Rwsia fel baban o 1740 hyd 1741 oedd Ifan VI o Rwsia (Rwseg Иоанн Антонович / Ioann Antonovich) (12 / 23 Awst 1740 – 5 / 16 Gorffennaf 1764).

Hanes

Mab hynaf Anna von Mecklenburg a'i gŵr Anton Ulrich von Braunschweig oedd ef. Mabwysiadwyd Ifan gan ei hen fodryb Tsarina Anna yn faban wyth wythnos ym 1740. Hithau a'i enwodd fel ei hetifedd, ac, ar ei marwolaeth, ar 17 / 28 Hydref 1740, cyhoeddwyd ef yn tsar a'i ewythr Ernst Johann von Biron, Dug Kurland, yn gweithredu fel rhaglyw. Ar ôl cwymp Von Biron ym mis Tachwedd, daeth mam Ifan, Anna Leopoldovna o Mecklenburg yn rhaglyw yn ei le. Serch hynny, gwir rym oedd yn nwylo Cownt Von Münnich, ac, yn hwyrach, Andrey Osterman. Diorseddwyd Ifan mewn coup d'état ym mis Rhagfyr 1741, tri mis ar ddeg ar ôl ei ddyrchafiad i'r orsedd. Carcharwyd Ifan yn Riga cyn iddo gael ei drosglwyddo i Kholmogory ar y Môr Gwyn ac wedyn i Shlisselburg. Fe'i llofruddiwyd yno ym mis Gorffennaf 1764 ar ôl cynllun anlwyddiannus i'w ryddhau. Roedd ganddo ddau frawd a dwy chwaer iau a ganwyd mewn carchar. Fe'u cadwyd yn gaethion gydag ef, ond goroesasant y profiad.

Rhagflaenydd:
Anna
Tsar Rwsia
17 / 28 Hydref 1740
25 Tachwedd / 6 Rhagfyr 1741
Olynydd:
Elisabeth

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!