Actor ffilm, teledu a radio Cymreig oedd Ieuan Rhys Williams (1909–1973).
Gyrfa
Fe ymddangosodd yn y comedi sefyllfa, Fo a Fe, fel Sioni y barmon; fel aelod o'r cast rheolaidd yn y gyfres deledu Moulded in Earth (1965); y ddrama ffilm Under Milk Wood (1972) yn chwarae rhan Gomer Owens.
Fe serennodd mewn nifer o ffilmiau Cymraeg yn cynnwys Noson Lawen (1949).
Theatr
1960au
- Tair drama fer gan Eugène Ionesco : Y Tenant Newydd, Merthyron Dyletswydd a Pedwarawd (1968)
Dolenni allanol