Hyperloop

Mae Hyperloop (Cymreigiad: hyperddolen) yn system drafnidiaeth gyflym arfaethedig ar gyfer y cyhoedd a chludo nwyddau. Cyhoeddwyd y syniad gyntaf gan y dyfeisyd

Hyperloop
Hyperloop
Enghraifft o:futuristic concept Edit this on Wikidata
Mathcludiant Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0m09kzc edit this on wikidata
QuoraHyperloop edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Hyperloop (Cymreigiad: hyperddolen) yn system drafnidiaeth gyflym arfaethedig ar gyfer y cyhoedd a chludo nwyddau. Cyhoeddwyd y syniad gyntaf gan y dyfeisydd Elon Musk mewn papur gwyn a ryddhawyd yn 2013, lle disgrifiwyd yr Hyperloop fel prosiect cludo a fyddai'n cynnwys capsiwlau a gefnogir gan aer-berynnau (air-bearings) mewn amgylchedd pwysedd-isel y tu mewn i diwb.[1] Mae gan systemau hyperloop dair elfen hanfodol: y tiwb ei hun, codennau sy'n gwibio o fewn y tiwb a therfynellau, sef math o orsafoedd.

Dyluniad o gapsiwl neu goden Hyperddolen: Cywasgydd echelinol ar y blaen, adran teithwyr yn y canol, adran batri yn y cefn, a sgïau caster aer ar y gwaelod
Braslun 3D o seilwaith Hyperloop posibl. Mae'r tiwbiau dur wedi'u rendro'n dryloyw yn y ddelwedd hon.

Mae'r tiwb yn system pwysedd-isel (gwactod neu faciwm) enfawr, wedi'i selio ac ar ffurf twnnel hir. Mae'r pod neu goden yn gerbyd dan bwysau atmosfferig yn profi gwrthiant neu ffrithiant aer isel y tu mewn i'r tiwb[2] ac yn teithio dan yriant magnetig. Mae'r derfynell yn fan cychwyn ac yn fan gorffen y daith. Mae'r Hyperloop, yn y ffurf gychwynnol a gynigiwyd gan Musk, yn wahanol i vactrains gan eu bod yn dibynnu ar bwysedd aer gweddilliol y tu mewn i'r tiwb a fyddai'n codi'r goden gyda chymorth aeroffoils a gyriad gan wyntyll; ond mae llawer o'r amrywiadau dilynol yn debyg iawn i'r vagtrains traddodiadol.

Cafodd Hyperloop ei awgrymu gan Elon Musk yn 2012, a ddisgrifiwyd ganddo fel "y pumed dull o deithio".[3] Hyrwyddodd Musk y cysyniad ymhellach trwy gyhoeddi papur gwyn yn Awst 2013, papur a greodd am lwybr Hyperloop yn llifo o Los Angeles i Fae San Francisco, gan fwy neu lai dilyn coridor yr Interstate 5. Roedd y cysyniad cychwynnol yn cynnwys tiwbiau gyda llai o bwysedd, lle mae capsiwlau neu gerbydau dan bwysau'n symud ar berynnau aer (air bearings) sy'n cael eu gyrru gan foduron llinol a chywasgwyr echelinol. Heriodd rhai dadansoddwyr trafnidiaeth yr amcangyfrifon cost a gynhwyswyd yn y papur gwyn, gyda rhai yn rhagweld y byddai Hyperloop gorwario dros biliwn o ddoleri i'w gwireddu.

Yn 2023, rhyddhaodd y Pwyllgor Ewropeaidd ar gyfer Safoni Electrodechnegol y safon dechnegol gyntaf ar gyfer systemau hyperddolen.[4]

Theori a gweithredu

Mae'r cysyniad o vactrain (Cymreigiad: gwacdren) yn debyg i system reilffordd gyflym mewn gwactod (faciwm), heb wrthiant aer sylweddol trwy ddefnyddio trenau sy'n codi mewn modd magnetig. Fodd bynnag, mae'r anhawster o gynnal gwactod dros bellteroedd mawr wedi atal y math hwn o system rhag cael ei hadeiladu hyd yma. Mewn cyferbyniad, mae Hyperloop yn gweithredu ar oddeutu 1 milibar (100 Pa) o bwysau ac mae angen yr aer i'r goden godi.

Mae nifer o lwybrau wedi'u cynnig ar gyfer systemau hyperddolen sy'n bodloni'r amodau pellter posib (pellteroedd o lai na tua 1,500 km (930 milltir).[5]

Cyfeiriadau

  1. "The Hyperloop Is Hyper Old". IEEE Spectrum (yn Saesneg). 2021-11-26. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Tachwedd 2021. Cyrchwyd 2021-11-28.
  2. Opgenoord, Max M. J. "How does the aerodynamic design implement in hyperloop concept?". Mechanical Engineering. MIT - Massachusetts Institute of Technology. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Hydref 2019. Cyrchwyd 16 Medi 2019.
  3. "Pando Monthly presents a fireside chat with Elon Musk". pando.com. PandoDaily. 13 Gorffennaf 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2017.
  4. "CEN/CLC/JTC 20 - Hyperloop systems". CENELEC. 2023-01-18. Cyrchwyd 2023-09-26.[dolen farw]
  5. Ranger, Steve. "What is Hyperloop? Everything you need to know about the race for super-fast travel". ZDNet (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Hydref 2020. Cyrchwyd 18 Ebrill 2020.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.