Mae hunlun (hefyd hun-lun a selffi; Saesneg: selfie) yn ffotograff hunanbortread, fel arfer yn cael ei dynnu ar ffôn symudol. Yn aml iawn mae hunluniau yn cael
| Math | hunanbortread ffotograffig, self-shot |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0sgh53y |



Mae hunlun (hefyd hun-lun a selffi; Saesneg: selfie) yn ffotograff hunanbortread, fel arfer yn cael ei dynnu ar ffôn symudol. Yn aml iawn mae hunluniau yn cael eu rhannu ar rwydweithiau cymdeithasol ar-lein fel Instagram, Facebook, a Tumblr. Maent yn anffurfiol ac yn aml yn cael eu tynnu gyda'r camera yn cael ei ddal hyd braich.
Creodd yr arloeswr ffotograffig Americaniad Robert Cornelius lun daguerreotype ohono'i hun ym 1839 sef un o'r ffotograffau cyntaf o berson. Oherwydd fod y broses mor araf, roedd yn gallu tynnu’r cap oddi ar y lens, rhedeg o flaen y camera am funud neu fwy, cyn dychwelyd i roi'r cap y lens yn ôl. Ysgrifennodd ar gefn y llun The first light picture ever taken. 1839.[1][2]
Ym 1900 dechreuodd gwmni Kodak werthu'r camera bocs ysgafn cyntaf y 'Kodak Brownie', ac fe ddaeth yr arferiad o dynnu hunan bortreadau'n boblogaidd. Fel arfer rhoddwyd y camera o flaen drych.[3]
Mae'r syniad o lwytho lluniau hunanbortread o grwpiau i'r we, gan ddefnyddio camera ffilm dafladwy yn hytrach na chamera digidol neu ffôn symudol, yn dyddio yn ôl i 2001 pan grëwyd gwefan gan grŵp o bobl yn Awstralia.[4][5][6]
Y defnydd cyntaf hysbys o'r gair selfie oedd mewn fforwm rhyngrwyd yn Awstralia ar 13 Medi 2002.[7]
Erbyn 2013 roedd y gair selfie wedi dod yn ddigon poblogiadd i'w gynnwys yn y fersiwn ddigidol o'r Oxford English Dictionary.[8]
Roedd y gair Cymraeg "hunlun" (neu "hun-lun") wedi ymddangos erbyn 2013.[9][10][11]
Yn 2015 dechreuwyd gwerthu esgidiau pwrpasol gyda lle arbennig ar gyfer y ffôn. [12]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.