Howel Walter Samuel

Howel Walter Samuel
Ganwyd1881 Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 1953 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd Howel Walter Samuel (18815 Ebrill 1953) yn gyfreithiwr, barnwr, gwleidydd Llafur Cymreig ac Aelod Seneddol dros etholaeth Gorllewin Abertawe[1]

Bywyd cynnar

Ganwyd Samuel yn y Fforest-fach, Abertawe yn 1881 yn fab i Thomas Samuel gweithiwr tunplat.

Cafodd ychydig o addysg elfennol yn ysgol y Cocyd gan adael yr ysgol yn 11eg mlwydd oed. Aeth i weithio mewn glofa leol. Cafodd ddamwain yn y gwaith a bu'n rhy glaf i weithio am gyfnod. Yn ystod ei gyfnod o segurdod gan ddisgwyl adferiad cafodd blas ar ddarllen a hunanhyfforddiant.

Wedi gwella digonol i ddychwelyd i'r lle gwaith cafodd swydd ym mhwll y Garngoch. Cydweithiwr iddo yn y Garngoch oedd David Rhys Grenfell (aelod seneddol Gŵyr yn ddiweddarach). Dan ddylanwad Grenfell dechreuodd ymddiddori yng ngwleidyddiaeth sosialaidd a hawliau gweithwyr.

Bywyd Teuluol

Wrth fynychu encil sosialaidd yn Norfolk cyfarfyddo a Harriott Sawyer Polkinghorne athrawes o Lundain, bu iddynt briodi ym 1911. Bu hi farw 19 Awst 1939. Priododd am yr ail dro ym 1941 ag Annie Gwladys, gweddw Syr Henry Gregg a merch David Morlais Samuel, Abertawe. Roedd hi'n aelod o Orsedd y Beirdd a adweinir wrth yr enw yn orsedd Morlaisa.

Gyrfa yn y Gyfraith

Gydag anogaeth David Rhys Grenfell a Harriott, ei wraig gyntaf, cafodd Samuel ei ysgogi i astudio'r gyfraith fel myfyriwr allanol. Cafodd ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1915. Cafodd ei godi'n Cwnsler y Brenin ym 1931. Cafodd ei benodi'n gofiadur Merthyr Tudful (1930-1933 ) ac yn farnwr ar gylchdaith Canolbarth Cymru ym 1933.

Gyrfa Gwleidyddol

Ym 1910 safodd Samuel fel ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholiadau Cyngor Dosbarth Gwledig Abertawe heb lwyddiant. Yn etholiad cyffredinol 1922 safodd fel ymgeisydd Llafur yn etholaeth Gorllewin Abertawe gan drechu'r aelod blaenorol, yr ymgeisydd Rhyddfrydol Syr Alfred Mond o drwch y blewyn. Collodd y sedd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol Walter Runciman yn etholiad cyffredinol 1924. Safodd eto yng Ngorllewin Abertawe yn etholiad cyffredinol 1929 gan ail gipio'r sedd oddi wrth y Rhyddfrydwyr, ond gan golli'r sedd i'r Rhyddfrydwyr eilwaith yn etholiad cyffredinol 1931.

Cyfeiriadau

  1. SAMUEL, HOWEL WALTER; Y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 25 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Alfred Mond
Aelod Seneddol dros Gorllewin Abertawe
19221924
Olynydd:
Walter Runciman
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Walter Runciman
Gorllewin Abertawe
19291931
Olynydd:
Lewis Jones

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!