Homeopathi

Mae homeopathi yn feddyginiaeth gydrannol neu amgen (CAM). Dyfeisiwyd homeopathi yn y 1790au gan feddyg o'r Almaen o'r enw Samuel Hahnemann.[1]

Homeopathi
Homeopathi
Samuel Hahnemann dyfeisydd homeopathi
Enghraifft o:Meddyginiaeth amgen, quackery, branch of pseudoscience, parascience Edit this on Wikidata
MathMeddyginiaeth amgen Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1796 Edit this on Wikidata
SylfaenyddSamuel Hahnemann Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/03pkm edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF3642 edit this on wikidata
QuoraHomeopathy edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae homeopathi yn feddyginiaeth gydrannol neu amgen (CAM). Dyfeisiwyd homeopathi yn y 1790au gan feddyg o'r Almaen o'r enw Samuel Hahnemann.[1]

Cysyniad

Mae triniaeth homeopathi yn seiliedig ar y cysyniad bod tebyg yn gwella tebyg. Mae'n defnyddio'r egwyddor y gall y corff oresgyn salwch os rhoddir dosau gwan o sylwedd i glaf a fyddai, ar gryfder llawn yn cynhyrchu symptomau'r salwch. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod meddyginiaethau homeopathi yn cael eu creu trwy wanhau cynhyrchion planhigion ac echdyniadau anifeiliaid fel bod lefel terfynol y cyffuriau gweithredol yn eithriadol o isel. Fel arfer bydd y dos yn llawer is na'r lefel y byddai fferyllydd yn derbyn bod ei hangen iddi werth biolegol ar glaf.

Argaeledd

Gellir rhagnodi meddyginiaethau homeopathi ar y GIG, ond dim ond ychydig o ysbytai a meddygfeydd sydd yn gwneud a hynny fel darpariaeth dewis i gleifion yn unig. Nid yw'r GIG yn ardystio i effeithiolrwydd y meddyginiaethau trwy eu rhagnodi. Fel arfer mae homeopathi yn cael ei ymarfer yn breifat ac mae meddyginiaethau homeopathi ar gael o fferyllfeydd. Gall y pris ar gyfer ymgynghoriad cychwynnol gyda homeopath yn amrywio o tua £20 i £80. Mae tabledi homeopathig neu gynhyrchion eraill fel arfer yn costio tua £ 4 i £ 10[2].

Effeithioldeb clinigol

Y safon aur ar gyfer profi effeithiolrwydd clinigol unrhyw gyffur yw prawf plasebo ar hap wedi ei reoli. Wedi eu profi fel hyn nid yw meddyginiaethau homeopathi erioed wedi dangos budd gwell na'r plasebo. Yr unig fantais i homeopathi yw bod lefel isel o gyffuriau presennol yn sicrhau bod y meddyginiaethau yn hynod ddiogel. Y gwir berygl mewn homeopathi yw bydd claf yn ei ddefnyddio heb effaith clinigol yn hytrach na defnyddio triniaeth go iawn, a thrwy hynny yn ei osod mewn perygl. Mewn adroddiad am homeopathi gan Bwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ'r Cyffredin yn 2010 dywedwyd nad yw meddyginiaethau homeopathig yn perfformio'n well na phlasebo, a bod yr egwyddorion y mae homeopathi wedi'u seilio arnynt yn "anhygoel o anwyddonol"[3]

Cyfeiriadau

  1. "Society of Homeopaths - What is homeopathy?". Cyrchwyd 15 Chwefror 2018.
  2. "NHS Choices - Homeopathy". Cyrchwyd 15 Chwefror 2018.
  3. Science and Technology Committee - Fourth Report Evidence Check 2: Homeopathy adalwyd 15 Chwefror 2018

Rhybudd Cyngor Meddygol


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.