Arwr traddodiadol a gysylltir â Gwynedd yw Hiriell neu Hirell. Mab Darogan y deyrnas honno oedd Hiriell yn y canu darogan yn yr Oesoedd Canol. Daeth ei enw yn
Arwr traddodiadol a gysylltir â Gwynedd yw Hiriell neu Hirell. Mab Darogan y deyrnas honno oedd Hiriell yn y canu darogan yn yr Oesoedd Canol. Daeth ei enw yn air cyffredin am 'arwr' hefyd.
Wyddom ni ddim byd amdano ond mae'n amlwg ei fod yn arweinydd neu frenin cynnar yn ardal Gwynedd. Yng ngwaith y Gogynfeirdd cyfeirir at bobl Gwynedd fel 'hil Hiriell' a Môn ac Arfon fel 'bro Hiriell'.
Mewn cerdd ddarogan yn Llyfr Taliesin ceir y llinell
Yn y cerddi darogan cynnar a elwir Yr Oianau, sydd i'w cael yn Llyfr Du Caerfyrddin a llawysgrifau eraill, mae Myrddin yn dweud y bydd Hiriell yn gwaredu Gwynedd rhag teyrnas Powys ar ôl 'codi o'i hir-orwedd' (fel Arthur a gwaredwyr eraill mae'n cysgu hyd nes daw'r amser penodedig):
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.