Hergé |
---|
|
Ffugenw | Hergé |
---|
Ganwyd | Georges Prosper Remi 22 Mai 1907 Etterbeek |
---|
Bu farw | 3 Mawrth 1983 Woluwe-Saint-Lambert - Sint-Lambrechts-Woluwe, Dinas Brwsel |
---|
Man preswyl | Etterbeek, Etterbeek, Watermael-Boitsfort / Watermaal-Bosvoorde, Céroux-Mousty |
---|
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg |
---|
Alma mater | - Q97278379
- Q98667129
- Q98668065
- Institut Saint-Boniface-Parnasse
- Institut Saint-Luc
|
---|
Galwedigaeth | cartwnydd, llenor, arlunydd comics, sgriptiwr, darlunydd, drafftsmon, cynllunydd stampiau post |
---|
Swydd | cyfarwyddwr celf |
---|
Cyflogwr | - Casterman
- Le Lombard
- Le Soir
- Le XXe Siècle
- Tintin
|
---|
Adnabyddus am | Anturiaethau Tintin, Quick & Flupke, Jo, Zette and Jocko, Popol out West |
---|
Arddull | ligne claire |
---|
Prif ddylanwad | Three Men in a Boat, They and I, Roughing It, George McManus, Georges Colomb, Jean-Jacques Waltz, Alain Saint-Ogan |
---|
Mudiad | School of Brussels |
---|
Priod | Germaine Kieckens, Fanny Rodwell |
---|
Gwobr/au | Swyddog Urdd y Coron, Prix Saint-Michel, Will Eisner Hall of Fame, Jack Kirby Hall of Fame, Adamson Awards |
---|
Gwefan | http://tintin.com/herge |
---|
llofnod |
---|
|
Ffugenw cartwnydd Belgiadd oedd Hergé, ei enw llawn oedd Georges Prosper Remi (22 Mai 1907 – 3 Mawrth 1983). Daw ei ffugenw o ynganiad Ffrangeg o flaen lythrennau ei gyfenw a'i enw cyntaf, RG. Mae Hergé'n adnabyddus yn bennaf fel creawdr a darlunydd y cyfres cartŵn stribed Anturiaethau Tintin, ysgrifennodd a darluniodd y gyfres o 1929 hyd ei farwolaeth yn 1983, gan adael ei 24ydd llyfr yn anorffenedig. Mae ei waith yn dal i fod yn ddylanwad cryf ar gomigion, yn arbennig yn Ewrop. Sefydlwyd yn Neuadd Enwogion Llyfrau Comig yn 2003.
Mae priodweddau nodweddiadol straeon Tintin yn cynnwys eu dyneiddiaeth lliwgar, teimlad realistig a gynhyrchwyd drwy ymchwil manwl ac eang, a dull darlunio ligne claire Hergé. Mae darllenwyr hŷn yn mwynhau'r nifer o gyfeiriadau dychanol tuag at hanes a gwleidyddiaeth yr 20g sydd i'w cael yn y gwaith. Ysbrydolwyd Le Lotus bleu, er enghraifft, gan y digwyddiad Mukden a arweiniodd at ryfel Chino-Japaneaidd 1934. Gellir darllen Le Sceptre d'Ottokar yn erbyn cefndir Anschluss Hitler; tra bod albymau mwy diweddar megis L'Affaire Tournesol yn disgrifio'r Rhyfel Oer. Mae Hergé wedi dod yn un o'r Belgiaid enwocaf yn fyd-eang, mae Tintin yn dal i fwynhau llwyddiant rhyngwladol, gyda dau lyfr yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg ym mis Hydref 2008.
Bywgraffiad
Ganwyd Georges Prosper Remi yn Etterbeek, ger Brwsel, Gwlad Belg yn 1907, yn fab i rieni dosbarth canol, Alexis ac Elisabeth Remi.