Henry Spinetti |
---|
Ganwyd | 31 Mawrth 1951 Cwm |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | cerddor, drymiwr |
---|
Cerddor o Gymro yw Henry Anthony George Spinetti (g. 31 Mawrth 1951).[1] Mae'n ddrymiwr sesiwn sydd wedi cyfrannu'n gerddorol i nifer fawr o albymau roc a phop amlwg.
Cefndir
Ganwyd Spinetti yn y Cwm, ger Glynebwy, i dad o dras Eidalaidd a mam Cymreig. Honnir bod ei daid tadol wedi cerdded yr holl ffordd o'r Eidal er mwyn chwilio am waith fel glöwr [2]. Roedd ei rienni, Giuseppe a Lily (née Watson), yn cadw siop chips yn y Cwm. Mae'n frawd iau i'r actor Victor Spinetti (1929–2012). Dechreuodd chwarae drymiau yn ddeuddeg mlwydd oed, ar ôl clywed The Beatles a phenderfynu mai dyna'r hyn yr oedd am ei wneud [3]. Aeth yn broffesiynol yn 16 mlwydd oed.
Gyrfa
Dechreuodd Spinetti ei yrfa recordio gyda'r band Scrugg,[4] oedd yn recordio ar label Pye. Roedd aelodau'r band yn cynnwys y Cymro Jack Russell, Chris Dee a'r canwr-gyfansoddwr o De Affrica, John Kongos. Yn y 1970au cynnar, ymddangosodd Spinetti gyda Kongos ar raglen Top The Pops y BBC yn perfformio sengl siart Kongos, "He's Gonna Step on You Again". Ar ôl gadael Scrugg, roedd gwaith cynnar Spinetti yn cynnwys cyfnodau gyda The Herd a Judas Jump, y grŵp agoriadol yng Ngŵyl Ynys Wyth 1970.[5]
Chwaraeodd Spinetti ar wyth o'r deg trac ar albwm Gerry Rafferty City to City (gan gynnwys y llwyddiant ysgubol "Baker Street"). Bu hefyd yn chwarae yng nghyngerdd coffa 2002 George Harrison, "The Concert For George".[6]
Recordiau
Mae credydau recordio Spinetti yn cynnwys:
Cyfeiriadau