Dan Harri IV, gwnaed ef yn Gwnstabl Lloegr ac yn arglwydd Ynys Manaw. Cafodd ef a'i fab, Henry 'Hotspur' Percy, y dasg o orchfygu gwrthryfel Owain Glyndŵr yng Nghymru, ond nid oedd eu hymdrechion yn bodloni'r brenin. Yn 1403, gwnaeth Hotsput a'i ewythr gytundeb ag Owain Glyn Dŵr, a gwrthryfela yn erbyn y brenin. Lladdwyd Hotspur yn Mrwydr Amwythig yr un flwyddyn. Nid oedd yr Iarll ei hun wedi cymryd rhan yn y gwrthryfel, ond collodd ei swydd fel Cwnstabl. Yn 1405, cefnogodd Percy wrthryfel Richard le Scrope, Archesgob Efrog, a gwnaeth y Cytundeb Tridarn gydag Owain Glyn Dŵr. Ffôdd i'r Alban, gan ddychwelyd gyda byddin yn 1408, ond lladdwyd ef ym mrwydr Bramham Moor.[1]