Mathemategydd o Gymru oedd Henry Owen (1716 – 14 Hydref 1795). Roedd yn ail fab (ar ôl Lewis Owen) i gyfreithiwr o'r enw William Owen a'i wraig Jonette Owen.
Cefndir
Ganwyd Henry Owen yn Nhan-y-gadair, Dolgellau. Cafodd ei addysg yn Ysgol Rhuthun ac yna yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen pan oedd yn 19 mlwydd oed. Bu yno Rhydychen o 1736 hyd nes iddo raddio, ym 1739. Fe raddiodd eilwaith, mewn meddygaeth ym 1746 gan gymryd ei M.D. ym 1753. Fe'i urddwyd ym 1746, a bu'n gurad ac yn feddyg yng Nghaerloyw am dair mlynedd. Terfynodd ei waith meddygol rwydro wedi hynny, oherwydd salwch. Daeth yn gaplan i ŵr bonheddig, a rhoddodd hwnnw iddo, ym 1752, reithoraeth Terling yn Essex — roedd hefyd yn gurad yn Stoke Newington.[1]
Cyhoeddiadau
Dyma rhai o'r teitlau a gyhoeddwyd gan Owen:
- Harmonia Trigonometrica, or A short treatise on Trigonometry; (1748)
- The Intent and Propriety of the Scripture Miracles considered and explained; (1755)
- An Enquiry into the present State of the Septuagint Version of the Old Testament; (1769)
- Critica Sacra, or a short Introduction to Hebrew Criticism; (1777)
- Collatio codicis Cottoniani Geneseos cum editione Romana a Joanne Ernesto Grabe jam olim facta nunc demum summa cura edita ab Henrico Owen, M.D.; (1778)
- A brief Account, historical and critical, of the Septuagint Version of the Old Testament, to which is added a Dissertation on the comparative Excellency of the Hebrew and Samaritan Pentateuch; (1787)
- The Modes of Quotation used by the Evangelical Writers, explained and vindicated. (1789)
Cyfeiriadau