Henry Lascelles Carr |
---|
Ganwyd | 1844 Knottingley |
---|
Bu farw | 5 Hydref 1902 Caerdydd |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | - Kingswood School
|
---|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, person busnes |
---|
Gŵr busnes a dyn papur newydd oedd Henry Lascelles Carr (1844 – 5 Hydref 1902).
Ganwyd Carr yn 1841 yn Knottingley, Swydd Efrog, gogledd Lloegr.[1]. Roedd yn fab i'r Parch. James B. Carr a fu'n gwasanaethu am gyfnod gyda'r Wesleaid yn y Barri. Derbynidd ei addysg yng ngholeg diwinyddol Sant Aidan, Penbedw (Birkenhead), ond yn hytrach na dilyn ei dad i'r weinidogaeth, penderfynnodd ddilyn gyrfa gyda'r Wasg. Cychwynodd weithio yn swyddfa'r Dail Post yn Lerpwl, ac yna bu'n is-olygydd gyda'r Western Mail wedi sefydlu'r papur hwnnw yn 1869. Ym mhen amser daeth yn rheolwr, golygydd, a chydberchennog hyd at 1901, ond yna bu'n rhaid iddo ymddeol oherwydd afiechyd.
Roedd yn gyfranogol i waith cyhoeddus o fewn y gymdeithas, e.e. aelod o Gyngor Tref Caerdydd ac fel ynad heddwch. Roedd hefyd yn awdur nifer o lyfrau megis yr un ar ddeddf cau tafarnau ar y Sabath (dydd Sul) yng Nghymru. Bu farw Henry Carr ar 5 Hydref 1902.
Yn 1891 Carr, fel rhan o grŵp bychan o bobl, prynodd y papur newydd News of the World, gan benodi ei nai Emsley Carr yn olygydd. Ychydig wedyn priododd Emsley ferch Carr. Tua'r adeg yma hefyd, trodd Carr i'r diwydiant gwestai, gan ddod yn Gadeirydd y Royal Hotel Company, perchennog y Royal Hotel ar Heol y Santes Fair, Caerdydd.[2]
Ffynonellau
- Western Mail, 7 Hydref 1902, 1 Mai 1919.
Cyfeiriadau