Henri Perri |
---|
Ganwyd | 1560 |
---|
Bu farw | 1617 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | ieithydd |
---|
Clerigwr, ysgolhaig ac awdur o gyfnod y Dadeni Dysg o Gymru oedd Henri Perri (1560/1 – 1617), a adnabyddir hefyd fel Henry Parry.
Bywgraffiad
Ganed Perri yn y Maes-glas, Sir y Fflint, yn 1560 neu 1561. Crwydrodd lawer yn ei ieuenctid cyn cael swydd fel caplan i Syr Rhisiart Bwclai (Bulkeley), un o dirfeddianwyr mawr Ynys Môn. Treuliodd dros ddegawd o'i oes ym Môn gan wasanaethu fel offeiriad ym mhlwyfi Rhoscolyn (1601), Trefdraeth (1606) a Llanfachreth (1613). Yn 1612 fe etholwyd yn ganon Eglwys Gadeiriol Bangor, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth yn 1617.
Dim ond un llyfr a gyhoeddodd, sef Eglvryn Phraethineb, sebh Dosparth ar Retoreg ('Egluryn Ffraethineb, sef Dosbarth ar Retoreg'), ond mae'n cael ei gyfrif yn un o glasuron ysgolheictod Cymraeg. Llyfr sy'n nodweddiadol o ysbryd y Dadeni ydyw. Ei bwnc yw rhethreg mewn llenyddiaeth. Er ei fod yn seiliedig ar lyfr cynharaf gan William Salesbury a llyfrau cyffelyb ar rethreg mewn ieithoedd eraill, mae llyfr Perri yn frith â dyfyniadau o waith y beirdd Cymraeg yn lle awduron Groeg a Lladin. Roedd hyn yn cydfynd ag awydd y Dyneiddwyr Cymreig i ddyrchafu a chyfoethogi'r iaith ac rhoi iddi urddas fel iaith dysg. Yn ogystal â rhoi blas Cymraeg i'r gyfrol, mae'r dyfyniadau yn rhoi darlun o ddarllen a diwylliant Cymro dysgedig yn y cyfnod hwnnw.
Daeth yr Egluryn yn llyfr poblogaidd a chafwyd sawl argraffiad ohoni dros y canrifoedd, yn cynnwys rhai yn y 19g. Cyhoeddwyd testun safonol gyda nodiadau gan G. J. Williams yn 1930.
Llyfryddiaeth