Hawl i ateb effeithiol

Hawl i ateb effeithiol
Math o gyfrwnghawliau dynol Edit this on Wikidata
Rhan oDatganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu10 Rhagfyr 1948 Edit this on Wikidata

Yr Hawl i ateb (neu ddatrusiad) effeithiol yw hawl person sydd a'i hawliau dynol wedi eu tramgwyddo i ddatrusiad cyfreithiol. Rhaid i ddatrusiad o'r fath fod yn hygyrch, yn rhwymol, yn gallu dod â'r tramgwyddwyr o flaen eu gwell, darparu iawn priodol, ac atal troseddau pellach.[1][2][3][4] Mae’r hawl i ateb effeithiol yn gwarantu’r gallu i’r unigolyn geisio datrusiad gan y wladwriaeth yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy broses ryngwladol. Mae'n ddull ymarferol o amddiffyn hawliau dynol ar lefel y wladwriaeth ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r wladwriaeth nid yn unig amddiffyn hawliau dynol de jure ond hefyd yn ymarferol ar gyfer achosion unigol.[3][5][6][7] Mae'r hawl i ateb effeithiol yn cael ei gydnabod yn gyffredin fel hawl dynol mewn offerynnau hawliau dynol rhyngwladol.[1][2][8][9]

Mynegir yr hawl i ateb effeithiol yn Erthygl 8 o'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, Erthygl 2 o'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, Erthygl 13 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ac Erthygl 47 o Siarter yr Undeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol Sylfaenol.[8][1][9]

Ceiswyr lloches

Mae’r hawl i ddatrusiad effeithiol wedi’i rhoi ar waith mewn achosion ceiswyr lloches lle mae’r hawl wedi’i dal i atal gwladwriaethau rhag alltudio ceisiwr lloches cyn dyfarnu ar gais y ceisydd am loches, a bod yn rhaid i’r hawlydd, ar ôl i gais am loches gael ei wrthod fedru apelio drwy gael digon o amser a mynediad at gynrychiolaeth gyfreithiol.[3][10] Yn gyffredinol, nid yw llysoedd wedi gweld yr angen i’r wladwriaeth ddarparu cyfreithiwr, hyd yn oed pan na all ceisiwr lloches fforddio un, oni bai fod gwirioneddol angen cyfreithiwr i gael datrusiad effeithiol. Mae llysoedd wedi canfod y gallai proses rhy ffurfiol dorri ar yr hawl i ateb effeithiol, yn enwedig pan na ddarperir cyfreithiwr.[10]

Yr Undeb Ewropeaidd

Yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd, mae’r hawl i ddatrusiad effeithiol yn berthnasol y tu hwnt i hawliau dynol i’r holl hawliau y darperir ar eu cyfer gan gyfraith yr UE sy’n cael eu gorfodi yn llysoedd yr aelod-wladwriaethau.[11]

Artaith

Mae Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig wedi datgan mewn achosion o artaith, bod yr hawl i ddatrusiad effeithiol yn ei gwneud yn ofynnol i wladwriaethau ymchwilio i honiadau o artaith, erlyn cyflawnwyr, rhoi iawndal i ddioddefwyr, ac atal troseddau tebyg rhag digwydd eto.[12] Mynegir egwyddor yr hawl i ddatrusiad effeithiol yn erthygl 14 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Artaith.<ref name="ag.gov.au">

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 "Right to an effective remedy". ag.gov.au. Australian Government: Attorney-General's department. Cyrchwyd 8 June 2018.
  2. 2.0 2.1 "What is the right to an effective remedy? | Icelandic Human Rights Centre". Icelandic Human Rights Centre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-06-08.
  3. 3.0 3.1 3.2 Kuijer, Martin (29 April 2014). "EFFECTIVE REMEDIES AS A FUNDAMENTAL RIGHT". Escuela Judicial Española & European Judicial Training Network. http://www.ejtn.eu/Documents/About%20EJTN/Independent%20Seminars/Human%20Rights%20BCN%2028-29%20April%202014/Outline_Lecture_Effective_Remedies_KUIJER_Martin.pdf. Adalwyd 2023-04-12.Kuijer, Martin (29 April 2014). "EFFECTIVE REMEDIES AS A FUNDAMENTAL RIGHT" Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback (PDF). Escuela Judicial Española & European Judicial Training Network.
  4. The Right to a Remedy and Reparation for Gross Human Rights Violations A Practitioners' Guide Revised Edition, 2018 (PDF). 2018. ISBN 978-92-9037-257-8.
  5. Musila, Godfrey (2006-12-20) (yn en). The Right to an Effective Remedy Under the African Charter on Human and Peoples' Rights. Rochester, NY. SSRN 2425592. https://papers.ssrn.com/abstract=2425592.
  6. "The right to effective remedy" (PDF). universal-rights.org. February 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2023-01-18. Cyrchwyd 8 June 2018.
  7. Gutman, Kathleen (2019-09-04). "The Essence of the Fundamental Right to an Effective Remedy and to a Fair Trial in the Case-Law of the Court of Justice of the European Union: The Best Is Yet to Come?" (yn en). German Law Journal 20 (6): 884–903. doi:10.1017/glj.2019.67. ISSN 2071-8322.
  8. 8.0 8.1 Paust, Jordan J. (2009). "Civil Liability of Bush, Cheney, et al., for Torture, Cruel, Inhuman, and Degrading Treatment and Forced Disappearance". Case Western Reserve Journal of International Law 42 (1): 359. ISSN 0008-7254. https://scholarlycommons.law.case.edu/jil/vol42/iss1/17.
  9. 9.0 9.1 "Article 47 - Right to an effective remedy and to a fair trial". fra.europa.eu. European Union Agency for Fundamental Rights. 25 April 2015. Cyrchwyd 8 June 2018."Article 47 - Right to an effective remedy and to a fair trial". fra.europa.eu. European Union Agency for Fundamental Rights. 25 April 2015. Retrieved 8 June 2018.
  10. 10.0 10.1 Reneman, Marcelle (2008-09-24). "Access to an Effective Remedy in European Asylum Procedures" (yn en). Amsterdam Law Forum 1 (1): 65–98. doi:10.37974/ALF.38. ISSN 1876-8156.
  11. Hofmann, Herwig C.H. (2013). "The Right to an 'Effective Judicial Remedy' and the Changing Conditions of Implementing EU Law". SSRN Electronic Journal. doi:10.2139/ssrn.2292542. ISSN 1556-5068. http://dx.doi.org/10.2139/ssrn.2292542.
  12. McCall-Smith, Kasey (3 February 2022). "How Torture and National Security Have Corrupted the Right to Fair Trial in the 9/11 Military Commissions". Journal of Conflict & Security Law 27 (1): 83–116. doi:10.1093/jcsl/krac002. https://doi.org/10.1093/jcsl/krac002.

Darllen pellach

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!