Tref yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Harrogate (neu Harrogate Spa).[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Harrogate.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Harrogate boblogaeth o 73,576.[2]
Mae Harrogate yn dref sba mawr a chyfoethog ac yn gyrchfan twristiaeth poblogaidd.[3] Mae dŵr y sba yn cynnwys mwynau chalybeate, sylffwr a heli, ac mae'r Gerddi Harlow Carr y Gymdeithas Garddwriaethol Brenhinol ymysg yr atyniadau. Mae'r dref yn tarddu o'r 17g, pan roedd dwy anheddiad High Harrogate a Low Harrogate ar wahân. Lleolir yn agos i Knaresborough yn nyffryn Afon Nidd.
Mae Caerdydd 300.6 km i ffwrdd o Harrogate ac mae Llundain yn 292 km. Y ddinas agosaf ydy Ripon sy'n 16 km i ffwrdd.
Adeiladau a chofadeiladau
- Neuadd Hollins
- Royal Pump Room (amgueddfa)
- Theatre Neuadd Brenhinol
Enwogion
Cyfeiriadau