Ganed Harpo yn Ninas Efrog Newydd yn 1888. Gyda'i frodyr Chico (Leonard), Groucho (Julius Henry) a Zeppo (Herbert), serennodd mewn nifer o ffilmiau comedi rhwng 1926 a diwedd y 1950au. Roedd ei gymeriad yn fud, yn chwarae'r delyn ac yn actio'n blentynaidd neu'n gwbl wallgof, gan amlaf yng nghwmni Chico.