Cymeriad stoc mewn commedia dell'arte yw Harlequin (Eidaleg: Arlecchino). Mae ei wreiddiau'n dyddio'n ôl i ddiwedd yr 16g yn yr Eidal, ac mae ganddo gysylltiad
| Enghraifft o: | bod dynol ffuglennol, funny person, Maschere, carnival character |
|---|---|
| Gwlad | Yr Eidal |
| Rhan o | Commedia dell'arte |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09kbs |
Cymeriad stoc mewn commedia dell'arte yw Harlequin (Eidaleg: Arlecchino). Mae ei wreiddiau'n dyddio'n ôl i ddiwedd yr 16g yn yr Eidal, ac mae ganddo gysylltiad penodol â dinas Bergamo.[1] Ef yw'r mwyaf adnabyddus o'r cymeriadau gwas comig (zanni) yn y commedia dell'arte. Mae'n chwarae rhan gwas sionc a chraff, sy'n aml yn gweithredu i rwystro cynlluniau ei feistr. Mae'n dilyn ei gariad, Columbine, â ffraethineb a dyfeisgarwch, gan gystadlu'n aml â Pierrot, sydd, i'r gwrthwyneb, yn gymeriad melancolaidd.
Mae ganddo fwgwd du a gwisg wedi'i gwneud o glytiau amryliw, fel arfer o siapau diemwnt. Mae'n dwyn pastwn hir, neu "ffon glec".
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.