Mosg Djingareiber yn Tombouctou , yn un o'r hynaf ym Mali
Mae hanes Mali yn cychwyn tua'r 4g OC . O'r amser yna ymlaen bu Mali yn rhan o sawl ymerodraeth yn olynol, yn cynnwys Ymerodraeth Ghana , Ymerodraeth Mali (Mansu Musa oedd ei hymerodr galluocaf) ac Ymerodraeth Gao .
O'r 11g ymlaen roedd Tombouctou (Timbuktu) yn ganolfan masnach a dysg bwysig. Erbyn y 14g roedd ei phrifysgol yn atynu ysgolheigion o bob cwrdd o'r byd Islamaidd , o'r Maghreb dros y Sahara yn y gogledd i'r Dwyrain Canol .
Yn ystod y 19g cafodd Mali ei meddiannu gan Ffrainc a'i hymgorffori yng Ngorllewin Affrica Ffrengig , oedd yn cael ei rheoli o'r brifddinas wladfaol yn Saint-Louis (ar arfordir Senegal ). Llwyddodd y Maliaid i ennill hunanlywodraeth fewnol yn 1958 fel aelod o'r Gymuned Ffrengig . Ffurfiwyd gwladwriaeth newydd gyda Senegal yn 1959 dan yr enw Ffederasiwn Mali , ond aeth Mali ei ffordd ei hun ar 22 Medi 1960 fel gwladwriaeth annibynnol.
Gweler hefyd